Ailddysgu

Monday, 30 December 2024

Eirlysiau

O lili wen fach, o ble daethost di?  Bob tro mae’r eirlysiau yn dechrau blodeuo dwi’n cael fy atgoffa o’r gerdd yma.  Mae’n debyg bod bob plentyn ysgol yng Nghymru o fy nghenhelaeth i (lle roeddent yn dysgu yn y Gymraeg) yn dysgu’r gerdd hon, a llawer mwy.  A dwi mor falch fy mod wedi cael y profiad hwnnw o gael addysg Gymraeg yn yr ysgol “y babanod” er fy mod wedi gorfod ailddysgu’r iaith fel oedolyn: (a dim wedi dysgu gramadeg Cymraeg yn yr ysgol chwaith!)

 

Mae eirlysiau yn blodeuo yng ngardd fy nghymydog ac ar y rhandir sydd yn agos aton ni - ac mae hi ond yn ddiwedd Rhagfyr.  Ac er eu bod yn hardd i’w gweld, dyma un peth arall i’n hatgoffa ni o’r argyfwng hinsawdd  (er does 'na ddim angen cael ein hatgoffa chwaith).

 

Dyma flodyn gyda llawer o enwau Cymraeg, fel sawl blodyn arall.  I fi, eirlys.  Ond fel gwelwn yn y gerdd, mae lili fach wen, neu lili wen fach yn enw arall a hefyd cloch baban a (dim syndod yn famau) lili’r eira.  Wrth gwrs, yn draddodiadol, maent yn symbol o’r gaeaf yn dechrau dod i ben, er bod mis Ionawr a Chwefror eto i ddod.  Wrth chwilio drwy luniau dwi wedi tynnu o eirlysiau, gwelaf fod y rhan fwyaf wedi cael eu tynnu ym mis Chwefror, fel hwn, a gwelaf hefyd fy mod i wedi gweld gwenynen ar eirlys yn yr un mis.



Monday, 16 December 2024

Nadolig Gwyrdd?

Nadolig Gwyrdd

Ydy hyn yn bosib, tybed? Dwi’n trio bod yn wyrdd trwy’r flwyddyn: prynu dillad ail-law pan fedraf, osgoi plastig, cadw fy ôl troed carbon yn isel a.y.b..  Mewn byd cyfalafiaethol, pres sy’n rhedeg popeth ac mae prynu'n ormodol yn rhemp.  Dwi yn mwynhau Nadolig - ac mae hynny’n cynnwys mwynhau rhoi anrhegion.  Ond sut medrwn ni wneud hynny heb brynu a rhoi pethau sydd ddim wir angen ac efallai pethau bydd yn cael eu taflu mewn tipyn o amser?

Dwi yn hoffi rhoi anrhegion dwi wedi eu gwneud  ond dwi ddim yn un grefftus ofnadwy - felly does dim dewis eang.

 

Dwi’n gwneud pesto yn yr haf, ac mae llawer o’r jariau yn mynd i’r rhewgell - a bydd y rheini yn anrhegion. 




 Dwi hefyd yn plannu bylbiau mewn potiau - felly mae’r rheini yn anrhegion hefyd - a hefyd llyfrau ail-law,  Eleni penderfynais brynu fframiau ail-law a defnyddio lluniau tynnais trwy’r flwyddyn i roi i fy mab a fy merch yng nghyfraith.  Dwi’n meddwl eu bod nhw yn edrych yn iawn a gobeithio byddan nhw yn eu hoffi. 

Sunday, 1 December 2024

Yn yr ardd ac yn y gegin


Archebais ddau rosyn newydd  


(does 'na ddim llawer o rosod yn yr ardd) a ddoe rhois nhw i mewn i’r pridd.  Wrth wneud hynny, wrth gwrs, (fel mae'r pethau yma yn digwydd), daeth sawl bwlb cennin pedr i’r golwg, a hefyd rhois rai bylbiau gladioli ac allium i mewn, ond mae mwy o’r rheini wedi mynd i mewn heddiw.  Ond cyn gorffen yn yr ardd, es i i’r tŷ gwydr i dorri pupurau gwyrdd.  Mewn ffordd, dylwn i wedi clirio’r tŷ gwydr dipyn o amser yn ôl, er mwyn ei dacluso a glanhau, ond mae’r pupurau wedi dal ymlaen er does 'na ddim siawns iddyn nhw droi’n goch, bellach.


Felly penderfynais eu defnyddio nhw yn y gegin mewn piperade.  Rysáit Ffrengig dwi’n meddwl, lle mae cymysgedd o nionod, pupurau a thomatos mewn wy wedi ei sgramblo.  Mae hi'n dipyn o amser ers i fi goginio piperade  ond roedd yn ddigon blasus, ac roedd yn bosibl gwneud salad gyda’r dail o’r tŷ gwydr.

 

Heddiw roeddwn yn gobeithio tynnu lluniau o rai o’r adar yn yr ardd.  Tra oeddwn yn plannu’r bylbiau ddoe, roedd haid fach o ditw cynffon-hir o gwmpas ond doedd y camera ddim gen i – ac roeddent yn symud o gwmpas beth bynnag.  Adar hardd ydy’r rhain – dyma luniau a dynnais rai blynyddoedd yn ôl.






Ond chwit chwat.  Maen nhw yn dod mewn haid fach ac yn symud yn gyflym – ac yn sydyn, maen nhw wedi mynd!  Ddoe roeddent yn symud o gwmpas yr ardd ac weithiau yn agos iawn.  Felly heddiw es i allan, bron yr un amser o'r prynhawn, gyda fy nghamera, ond wrth gwrs, wnaethon nhw ddim dod i’r ardd heddiw!  Profiad felly ydy hi gyda bywyd gwyllt.  Rhaid cael digon o amynedd a dysgu am ymarferion yr aderyn neu’r anifail.  Ond mae 'na wastad digon o bethau diddorol.  Mae gwenynen wedi bod yn hedfan o gwmpas y goeden ceirios yn yr ardd ffrynt.  Er ei bod hi'n hwyr yn y tymor, mae gwenyn* yn medru bod allan yr amser yma o’r flwyddyn, ac mae’r goeden (sydd yn blodeuo yn y gaeaf) yn llawn o flodau ar y funud.  Efallai caf lun! 

*Dylwn i egluro be sydd gen i mewn golwg yn fama: gwenynen flewog – bumble bee yn Saesneg, ond mae enwau Cymraeg ar y creadur yma yn amrywio gymaint.  Cacynen ydy’r enw yn Llyfr Iolo, ond i fi, “wasp ydy” cacynen.