Ailddysgu

Tuesday, 14 July 2026

Llyfrau Newydd Cymraeg

Wth beidio fynd i Gaernarfon am yr ŵyl, collais y cyfle i brynu llyfrau Cymraeg newydd o “Palas Print” – ac i fynd â’r rhai doeddwn i ddim isio bellach i siop elusen – a falle prynu llyfrau o’r siop hefyd….Wel y llyfr ar ben fy rhestr ydy “Hei Fidel” gan Pryderi Gwyn Jones; (ar gyfer ein cyfarfod darllen nesaf).  Erbyn hyn, mae’r llyfr wedi cael ei harcheb o’r siop, ond fel dywedais yn y blog cynt, hefyd, darganfyddais copi o “Croesi Cyfandir Ar Ddwy Olwyn” ar Kindle, felly dwi hanner ffordd trwyddo fo erbyn rŵan ac ia mae o’n plesio o hyd. 

 

Dwi wedi darllen y ddau lyfr cyntaf yn y gyfres ac felly dwi’n awyddus i ddarllen “Tri” gan Sonia Edwards.  Ar ddechrau’r penwythnos treuliais dipyn o amser yn dal i fyny gyda’r podeldiad Colli’r plot.  Mae’r podlediad yn lle da i gael syniadau am be i ddarllen ond weithio mae malu awyr yn mynd yn ormod a dwi isio jyst cyrraedd y pwynt lle maen nhw’n trafod y llyfrau.  Ond wedi colli sioe Tudur Owen, Huw Dduw, deallais fod sgript ar gael, felly mae hwnna wedi ei harcheb hefyd.  Tybed bydd o yn gweithio fel sgript?  Cawn weld.

 

Awdur dwi’n hoffi yn ofnadwy ydy Rhian Cadwaladr; dwi wedi mwynhau  Fi Sy’n Cael y Ci, Môr a Mynydd, Plethu, Dathlu! a Gwaddol, felly wrth glywed bod ‘na lyfr newydd allan:  “Tan ar hen aelwyd”, mi es ati i brynu hwnna hefyd.  Ac felly bydd pedwar llyfr yn cyrraedd yn y post cyn bo bir.  Cyffrous!  Yn y cyfamser – ers i fi sgwennu’r rhan gyntaf o’r blog, dwi wedi gorffen Croesi Cyfandir Ar Ddwy Olwyn ac wedi prynu Mor Hapus (Gwenllian Ellis) ar kindle hefyd: llyfr gwahanol iawn ond un dwi hefyd yn mwynhau. 

Monday, 13 July 2026

Ail ddiwrnod o'r Ŵyl

Mae hi’n ddydd Sadwrn erbyn hyn ac....

Mae hi’n parhau i fod yn boeth yma ond efallai dipyn bach yn oerach na ddoe.  Am fy mod i ddim yn medru mynd i siop lyfrau i brynu llyfrau Cymraeg dwi wedi tsecio beth sydd ar gael ar Kindle – ac mae  Croesi Cyfandir Ar Ddwy Olwyn ar gael a dwi wedi dechrau ei ddarllen. Diddorol ond dim llawer o esboniad pam roedd Grug Muse yn gwneud y daith yma.  Ond ymhellach ymlaen mae hi’n dweud bod cymaint o bobl mae hi’n cyfarfod â nhw yn gofyn yr un cwestiwn ac “antur” dwi’n meddwl ydy’r ateb.  Fel mae hi’n digwydd roedd fy ngŵr a fi yn sôn am wyliau beicio a wnaethon ni yng Ngogledd Sbaen yn ôl yn 1983 – yn fy ugeiniau hwyr.  Am fis aethon ni; cael trên i lawr i Plymouth ac wedyn llong i Santander a beicio trwy’r Picos D'Ewropa, mynyddoedd trawiadol a hardd – ond yn achosi digon o law, a stormydd o bryd i’w gilydd.  Felly dim byd fel yr 80 diwrnod a gymerodd Grug Muse I groesi America, ond taith ryw 30 diwrnod.  Ond wedi dweud hynny, roedd yn rhoi’r profiad o feicio dydd ar ôl dydd: ond gyda chwmni.

 

Mae Grug Muse yn sgwennu’n dda, ac mae’r llyfr yn hawdd ei ddarllen.  Ar y mwyaf, mae hi’n gwersylla: weithiau mewn parciau swyddogol ac weithiau mae hi’n trio ffeindio rhywle addas answyddogol.  Dan ni’n cael llun da o America deng mlynedd yn ôl, cyn i Trump gael ei ethol am y tro cyntaf.  Mae hi’n siarad â phobl mae hi’n cyfarfod â nhw ar y ffordd ac weithiau yn aros gyda theuluoedd lleol hefyd ac yn disgrifio’r llefydd lle mae hi’n teithio trwyddyn nhw hefyd.  Weithiau gwastadau di-ri gyda chaeau ŷd; ac weithiau cefn gwlad sydd yn ei hatgoffa hi o Gymru.  Ond mae hi’n gamp iddi hi sgwennu crystal am y fath brofiad.

Sunday, 12 July 2026

Dim Gŵyl Arall eleni

 


Dydd Iau, 9fed Gorffennaf.

Wel, mae’n edrych yn debyg iawn na fyddaf yn mynd i Ŵyl Arall yng Nghaernarfon eleni.  Dwi’n siomedig.  Dwi wedi bwcio lle i aros, (tafarn, eleni: y Black Boy); tocynnau ar gyfer digwyddiadau, a’r trên.  Felly beth sydd wedi digwydd?  Am un peth mae hi’n grasboeth, ac efallai bydd hynny’n cael effaith ar y trenau, ond am wn i, maent yn rhedeg yn iawn.  Ond, fel dach chi’n ei wybod, dwi’n arddwr brwdfrydig, ac mae cymaint o waith dyfrio a jyst cadw pethau’n fyw ar y funud.  Fel arfer, mi fase fy ngŵr yn dyfrio’r ardd a’r tŷ gwydr, er ei fod yn joban o lew yn y tywydd yma - yn gynnar yn y bore ac yn hwyr gyda’r nos, ond mae o wedi brifo’r ben glin ac yn methu cerdded llawer na sefyll.  Ac ar ben hynny, mae’r ci yn dioddef o golitis ac isio mynd allan yng nghanol y nos...felly mae ffawd wedi camu i mewn, dwi’n meddwl.  Ond dyna ni.

 

Heno, mae canlyniad llyfr y flwyddyn yn cael ei gyhoeddi.  Dwi wedi darllen dau o’r llyfrau – neu wedi trio.  Un ydy llyfr Mererid Hopwood “Mae”: cerddi hyfryd.  Dwi heb eu darllen nhw i gyd, ond wedi darllen sawl un.  Hefyd prynais y nofel 'Dau', Bethan Nantcyll (Gwasg y Bwthyn) ond dim wedi cael llawer o hwyl arni hi.  Dwi’n dychmygu ei bod yn dipyn o waith beirniadu’r gystadleuaeth.

 

Fel mae hi’n digwydd dwi’n mynd i gyfarfod ein clwb darllen Saesneg heno: i drafod Seascraper, nofel gan Benjamin Wood.  Dwi ddim cweit yn siŵr am y nofel yma.  Sgwennu gwych – ond llyfr od.  Taswn yn mynd i Gaernarfon mi faswn wedi chwilio am lyfrau newydd Cymraeg i'w darllen ond gan fy mod yn debyg iawn yn aros yn famau, bydd rhaid eu harchebu nhw trwy’r post.