Cynhaeafu, afalau a chymuned
Yn ystod yr wythnos mi es i weld cymydog, Jean, sydd yn byw yn agos. Mae gardd Jean drws nesaf i fy ngardd i, gyda wal fy ngardd yn eu gwahanu. Ychydig o flynyddoedd yn ôl yr oedd fy mab hynaf, Tebor, yn garddio i Jean, sydd rŵan yn ei wythdegau hwyr, er doedd hi erioed yn arddwraig! Mae gardd Jean digon mawr a gofynnais iddi hi a fase hi’n hoffi cael coeden afalau yn yr ardd? Coeden afalau cwcio. Doedd dim lle ar ôl yn fy ngardd i, a’r syniad oedd ffeirio afalau cwcio am afalau bwyta. Felly dyma Tebor yn plannu’r goeden afalau.
Yn anffodus dirywiodd iechyd Jean cyn i ni gael cyfle i hel afalau, ac yn fwy anffodus syrthiodd yn y stryd ym mis Mawrth a threuliodd amser hir yn yr ysbyty ac mewn cartrefi gofal yn gwella ar ôl torri ei chlun. Ar ôl y cwymp, gwaethygid yr alzheimer yn sylweddol, ac ond yn ddiweddar mae hi wedi cael dod adre. Dwi wedi bod yn ymweld â hi yn yr ysbyty, ac yn ddiweddar yn ei chartref, ac am y tro cyntaf, roedd afalau swmpus ar y goeden - er gwaethaf y tywydd poeth a sych.
Dyma’r afalau - byddaf yn gwneud crymbl dros y penwythnos a mynd a pheth iddi hi. Ar raglen garddio yn ddiweddar, rhoddwyd cyngor i rywun a oedd eisiau coeden afalau (ond gydag ond lle i un) i ofyn i , neu berswadio cymydog i blannu coeden afalau. A dyna be wnaeth i fi feddwl am drefniant Jean a fi. Mae garddio - yn enwedig rhandiroedd yn dod a phobl at ei gilydd, ac yn gallu tyfu cymunedau yn ogystal â gerddi. Wythnos yma, roedd y rhaglen Garderers’ World ar y teledu yn sôn am randiroedd, y cymunedau sydd yn rhan ohonyn nhw, a’r cyfeillgarwch sydd yn medru datblygu, fel yr un rhwng y ferch sydd yn ei hugeiniau cynnar a’r dyn sydd yn wythdeg ac yn rhannu rhandir. Da, te?