Ro’n i’n meddwl am amser hir bod llwynogod yn sgrechian ac yn cyfarth. Wedi clywed y ddau sŵn: y cyfarth yn cael ei ddefnyddio (dwi’n meddwl) i gysylltu â llwynog arall. A’r sgrech - sŵn annaearol pan mae’r llwynogod yn paru. A’r fenyw sy’n sgrechian am wn i. Ond, yn ddiweddar, dwi wedi clywed sŵn gwbl wahanol. Yn Saesneg dwi’n meddwl am y sŵn fel “yickering’ ac mae o’n digwydd pan mae mwy nag un llwynog yn cystadlu am fwyd. Mae fy ffrind drws nesaf yn bwydo llwynogod. Mi wnes i’r un peth am amser byr - ond mae glanweithdra’r llwynog - wel, does 'na ddim! Ar ôl bwyta, mae’r llwynog yn cachu i neu ar y bowlen lle'r oedd y bwyd. Ych-a-fi! Penderfynais beidio, felly. Ond mae’r llwynogod yn dod i gael y bwyd drws nesaf. Ac mae 'na ryw bedwar ohonyn nhw, felly dipyn bach o ffraeo a chystadlu - a heb y sŵn, faswn i ddim yn gwybod eu bod nhw yna.
Beth bynnag, gyda’r cloc wedi newid, daeth y llwynogod yn gynharach neithiwr - tua 9 o’r gloch. 10 o’r gloch yn yr hen amser, (amser yr haf) pan ydw’i, fel arfer, yn fy ngwely. Ond neithiwr clywais y sŵn, a diffodd y golau i weld be oedd yn digwydd. Ru’n fath a rhywbeth allan o ”Attenborough“! Un llwynog yn cerdded ar draws y lawnt (tŷ nesaf) i fwydo; un arall yn cerdded ar y wal, ac wedyn un yn rhedeg trwy ein gardd ni, ac allan trwy’r giât a rhedeg i fyny’r lôn.
Rhaid dweud eu bod nhw yn llwynogod hardd iawn, mewn cyfle da. Dwi ddim wedi cael lluniau o’r llwynogod yma. Rhois fenthyg fy ”camera trap’ i fy nghymydog iddi hi gael ei ddefnyddio. Ond dyma hen lun tynnais gyda’r camera o lwynog yn yr ardd ffrynt pan roeddwn yn defnyddio’r camera:
Mae llwynogod fel Marmite – ond dwi’n hoff iawn ohonyn nhw – er fy mod i’n meddwl bod eu arferion o gacu ar eu fwyd yn dipyn o broblem. ( cyn i chi ofyn – dwi ddim yn hoff o Marmite!) Dwi ddim wedi gosod y trap camera am dipyn – ond mae o’n hawdd gwybod weithiau pan mae llwynog wedi dod i fewn i’r ardd gefn. Mae esgidiau garddio yn cael eu symud (i chwarae efo nhw) a mae baw llwynog yn cael eu roi ar ben y bin compost....