Ailddysgu

Sunday, 23 November 2025

Gaeafu a llwynogod

Wel mae’r tywydd oer wedi  mynd a dod.  Mae’n bwrw rŵan a mi oedd yn bwrw trwy’r dydd ddoe – ond yn ôl y rhagolygon bydd yn gwella heddiw.  Ychydig o ddyddiau gaeafol a gawson ni, a rhai ohonyn nhw yn heulog iawn, gyda golau gwych.  Ar ddydd Gwener es i am dro o gwmpas llyn Willen, a roedd yn ddiwrnod bendigedig.  Ond, mae ffliw adar o gwmpas, sydd yn drist iawn.


Yn yr ardd, does dim syndod bod y blodau dwi wedi bod yn torri i ddod â nhw




 i mewn i’r tŷ, wedi gorffen, o’r diwedd, gyda’r tywydd rhewllyd.
  Eleni tyfais flodau i'w torri, mewn patsh torri arbennig.  Dwi ddim yn meddwl byddaf yn gwneud yr un peth blwyddyn nesaf: mae rhaid torri’r blodau yn aml, a doeddwn i ddim yn gwneud hynny.  Seren y sioe, heb os, oedd y cosmos.  Ac mi oedden nhw yn ffynnu hyd at y tywydd rhewllyd fel gwelwch.  Ond maen nhw wedi marw rŵan.  Ac felly, os dwi isio rhywbeth o’r ardd yn y tŷ, bydd rhaid troi at bethau sy’n blodeuo yn yr Hydref a’r Gaeaf, fel viburnum neu’r goeden geirios.




Yn y tŷ gwydr mae’r pupurau yn tyfu o hyd!  A dyma rai defnyddiais ond echdoe yn y gegin. Mae yna aubergines hefyd, ond dwi ddim yn siŵr a ydynt wedi aeddfedu digon.  Defnyddiais un gyda aubergine o’r siop ac mi roedden yn flasus iawn.  A'r tu allan, mae hi’n dechrau bod yn dymor paru, i’r llwynogod.  Ac echnos ces i fy neffro gan lwynog yn gweiddi’n uchel: rhywbeth fel cath, neu blentyn yn cael ei frifo.  A chyn hynny, gwelais lwynog yn rhedeg i lawr y lôn.  Ond neithiwr, diolch byth, roedd popeth yn dawel.

Saturday, 8 November 2025

Y goeden geirios

Dyma ni ym mis Tachwedd unwaith eto.  Mae’r ci druan yn gwrthod mynd allan unwaith mae hi wedi nosi, oherwydd y tân gwyllt, a hyd yn oed yn y tŷ mae ambell noson, fel nos tân gwyllt ei hun, yn achosi llawer o ofn.  Felly’r drefn ydy cerdded cyn gymaint ag y gallwn i, o fewn rheswm). yn ystod y dydd.

Yn bendant dwi wedi sôn am y goeden geirios sydd  yn yr ardd ffrynt, ac i’w gweld yn glir trwy’r ffenestr.  Mae hi’n blodeuo yn yr hydref a’r gaeaf a weithiau drwy gydol y gaeaf.



Yn yr hydref mae’r dail yn lliw gwych, ond erbyn hyn maen nhw i gyd wedi disgyn (a’r lliw yn wych ar y ddaear).  Ond beth sydd yn wyrthiol ydy bod y blodau yn dod allan y munud mae’r dail wedi disgyn.  Ond un neu ddau flodyn sydd arni hi rŵan ond cyn bo hir bydd wedi’i gorchuddio.



A wedyn bydd yr adar bach yn dod ac yn bwyta’r blodau!  Ond dim y blodau i gyd, diolch byth.  Dyma lun o ditw cynffon hir yn y goeden y llynedd.



Weithiau ar raglenni garddio, mae rhywun yn gofyn: pe tasech chi ond yn cael un goeden yn unig yn eich gardd, pa un fasech chi’n ei dewis?  Hon, heb os ac oni bai. Prunus subhirtella Autumnalis ydy'r enw, swyddogol, Lladin.