Ailddysgu

Wednesday, 18 February 2026

Y pwll

Yn ôl pob sôn, os ydych am gael gardd sydd yn dda i fywyd gwyllt, pwll ydy’r peth gorau allech chi ei gael.  Yn ein gardd cefn, mae pwll bach  yna  ers i fi adeiladu un gyda fy mab ifancaf, un diwrnod dros wyliau’r Pasg.  Roedd hynny rywbeth fel 30 mlynedd yn ôl.  Gwnaethon ni drio dilyn y cyngor i wneud y pwll mor fawr â phosib, ond ar ôl gorffen, roedd y pwll yn edrych reit fach.  Ond ta waeth.  Dros y blynyddoedd mae’r pwll wedi denu gwahanol fathau o fywyd gwyllt: yn bennaf, llwyth o lyffantod, a gweision y neidr. 

Dyma'r pwll yn ôl yn 2012:


Dyma un o'r trigolion ym mis Mawrth, 6 blynedd yn ôl:



A llynedd ar ddiwedd mis Mawrth, death ymwelwyr arall - i fwyta'r trigolion!

 

Ond doedd y pwll, erbyn hyn, (wel, ers tipyn!) dim yn dal dŵr yn iawn.  Roedd rhwyg bach yn rhywle.  Felly aethon ni (y garddwr a fi) ati i newid y leiner.  Gwaith caled a chorfforol!  Yn anffodus roedd llawer o lyffantod yn cysgodi yn waelod y pwll, ac roedd rhaid symud nhw dros sbelan.  Dyma rhai ohonyn nhw:

 

Ac erbyn hyn yr oedd y pwll yn orlawn o blanhigion hefyd.    Mae’r pwll yn edrych yn wag iawn ar ôl cael ei ail lenwi.  Dwi ddim yn cofio o le ddaeth yr iris, ond maen nhw wedi bod mor brydferth bob Gwanwyn. Rŵan, tamaid bach sydd ar ôl, ond mi ddôn yn ôl yn eithaf cyflym er na fydd llawer o flodau eleni.








Monday, 16 February 2026

Garddio: hau hadau

Cefais ddiwrnod da ddydd Sadwrn, yn hau hadau yn y tŷ gwydr.  Fel soniais mewn blog arall, eleni, arhosais tan ddydd San Ffolant i ddechrau’r proses. Erbyn hyn mae’r golau’n well ac mi fydd y planhigion bach yn medru ymdopi - ond mae rhaid cael gwres  - ac mae hi’n ddigon cynnar i blanhigion sydd yn tyfu’n araf (fel aubergines) gael digon o amser i dyfu ac aeddfedu.

 



Felly mae tomatos wedi cael eu dechrau - a phupurau coch, aubergines, sawl math o letys, blodau cosmos a chiwcymbr.  Gobeithio byddant yn ffynnu!  A gan fod y tywydd yn dda, am unwaith (glaw trwy’r diwrnod canlynol...) es i am dro sylweddol cyn brecwast ac roeddwn hefyd yn medru gwneud tipyn o waith yn yr ardd.  Dwi wedi symud planhigion salvia wrth ymyl y rhosod newydd, i guddio’r coesau hyll.  Mae blodau rhosod yn ddel, ond nid y planhigyn ei hun!  Ac mae’r gwely ffa llydan yn barod am res arall o ffa.




 

Ond heddiw, dydd Llun, penderfynais beidio rhoi’r ffa yn y gwely, oherwydd yr oedd y tir mor wlyb.  Dwi wedi rhoi’r ffa yn y tŷ gwydr, mewn root trainers fel y rhain, sydd yn gweithio’n dda, a dwi wedi hau pys mewn hen fasged gyda phapur newydd tu mewn.  Dwi am eu defnyddio nhw fel “shoots” ar gyfer salad.  Felly mae digon o bethau wedi cychwyn eu taith – gobeithio byddant yn llwyddiannus!

Thursday, 12 February 2026

Garddio

Dwi’n tansgrifio i flog gan Marc Diacono - am arddio, bwyd, a ffermio yn gall - a dyma be oedd ganddo fo i ddweud y ar y 7fed o Chwefror:

Next weekend is when you should, in my view, sow chillis and tomatoes. They are deceptively simple to grow but very particular. …

a mae o yn dyfynu Monty Don y garddwr:

Every Valentine’s Day, my wife knows she’ll hear those three special words from me: ‘Just sowing chillis’. It is my default day for sowing all chillis and the other sun lovers - peppers, tomatoes and aubergines

A dwi’n meddwl bod y dau yn iawn.  Chwefror 14 ydy’r dydd.  Y llynedd nes i ddechrau rhy gynnar – ar ddiwedd fis Ionawr dwi’n meddwl, a dydy’r pethau bach ond yn cael anhawster yn y tywydd garw (er eu bod yn y tŷ gwydr).  Felly, eleni dwi wedi bod yn archeb hadau dwi angen (llawer ar ôl yn y bocs) ond dim am eu ddefnyddio nhw am ryw wythnos eto.

 

Ond mae ‘na ddigon i’w wneud yn y cyfamser.  Yn raddol, mae’r tŷ gwydr yn cael ei clirio, a’r hen gompost a chafodd ei ddefnyddio y llynedd, yn mynd i’r bin compost a’r compost newydd yn cael ei rhoi mewn lle ar gyfer y blanhigion.  Ond cyn mynd i’r ddaear, mae'r hadau'n cael eu hau mewn celloedd neu hambyrddau a'u rhoi ar luosogyddion wedi'u gwresogi ac yn tyfu am dipyn cyn cael eu symyd.  

 

Mae planhigion yn y tŷ gwydr o hyd ar hyn o bryd. Mae letys a heuais yr hydref diwethaf, a oedd yn fach iawn, bellach yn tyfu'n araf yn y gwelyau ar y ddaear. Dyma’r “lamb’s lettuce” a ryw fath o letys aeafol.  






Ac mae perlysiau'r archfarchnad wedi'u rhoi ar y hambwrdd lluosogi. Mae hon yn ffordd wych o gael cyflenwad cynnar o gorriander a mintys. Mae'n rhy gynnar i'm mintys gardd ddangos llawer ond dylai'r potyn bach a brynais yn Waitrose ddarparu ychydig o doriadau.
  A dyma nhw.


 

Dwi hefyd yn gobeithio rhoi’r trydydd rhosyn i fewn yn yr ardd.  Mae dau wedi cael eu blannu yn barod.  Rhosyn o’r enw “Dainty Bess” ydy hwn.  Mae'n rhosyn sengl gyda blodau agored eithaf mawr, ac yn bersawrus ac felly yn ddeiniadol i beillwyr, yn wahanol i'r rhan fwyaf o'n rhosod ni.