Ailddysgu

Sunday, 12 April 2026

Wythnos yn ôl, roeddwn yn Dorset, dros y Pasg.  Roedd y tywydd ddim yn edrych yn rhy addawol cyn i ni fynd ond roeddwn wedi trefnu mynd i Saesneg gyda fy ffrind o Ganada.  Byddan ni’n trio gwneud rhywbeth ynglŷn â bywyd gwyllt pan mae hi yn y wlad yma.  Y llynedd aethon ni i Aigas yn yr Alban,  lle ‘roedd yn bosib gweld eryrod a llwyth o adar ac anifeiliaid.  Eleni roedden dipyn yn agosach i adref yn Swanage yn Dorset, sydd yn wahanol iawn ond hefyd yn ardal ardderchog ar gyfer natur.  Dan ni wedi bod yn yr ardal o’r blaen, yn aros yn Wareham y tro diwethaf, pryd aethon ni i ynys Brownsea, lle mae ’na wiwerod coch, ac i barc Durleston lle mae adar y môr, ac o le, os ydych yn ffodus, efallai gwelir dolffiniaid hefyd.  Dyma un o’r gwiwerod coch.


Cawson tywydd braf, a fel arfer, bydden wedi bod yn cerdded dipyn.  Ond eleni, rywsut, dwi wedi niweidio fy nhroed chwith - wn i ddim sut, ond mae o’n brifo ac yn ôl yr arbenigwraig yn y Foot Clinic lleol ddylwn i ddim cerdded.   Wel doedd hynny ddim yn bosib heb ganslo’r gwyliau ac roeddwn isio gweld fy ffrind!  Ond yn ffodus, am ryw reswm, yr oedd hi wedi penderfyny llogi car.  Felly doedd dim rhaid cerdded gormod.  Pan aethon i’r warchodfa gyntaf: Arne, roedden nhw’n cynnig Trampers, sef ryw gerbyd bach electrig (mobility scooters) a oedd yn mynd ar y llwybr yn digon handi, ar gyfer pobl nad oeddent yn medru cerdded, neu dim yn medru cerdded yn bell.  Felly dyna beth wnaethon ni: llogi Tramper.   Ac mae’r warchodfa yn lle gwych.   Roedd y rhaglen teledu Springwatch yn dod o Arne ddwy flynedd yn ôl ac yn dangos y gweilch marta yna.  Dwi erioed wedi gweld gwalch marth: aderyn ysglyfaethus prin a phwerus, ac enw Gymraeg newydd i fi - Goshawk yn Saesneg.


Digon prysur ar adegau a hithau’n Sul Pasg.  Roeddwn i’n gobeithio gweld Telor Dartford neu hyd yn oed Eryr y Môr- ond dim lwc!   Efallai eich bod yn gofyn sut mae hi’n bosib gweld eryrod yn yr ardal?  Yr ateb ydy bod sawl eryr y môr, erbyn hyn, yn byw yn yr ardal o gwmpas harbwr Poole; wedi dod Ynys Wyth lle maen nhw wedi cael ei ailgyflwyno.  Dyma un o'r ceirw sydd yna - Sika.