Ailddysgu

Friday, 31 October 2025

Llyfrau Ffantasi


Ydych chi’n hoff o lyfrau ffantasi?  Maen nhw dipyn fel marmite dwi’n meddwl.  Ond os dach chi’n hoffi dianc i fyd arall; pan mae pethau yn ddu yn eich bywyd go iawn...i fi does 'na ddim llawer gwell.  Ac os ydych yn hoff o ffantasi...pa rai sydd yn dda?

Wel, dwi newydd droi yn ôl at glasur: “Lord of the Rings”.  Darllenais hwn gyntaf pan oeddwn yn fy arddegau a dwi’n cofio rhuthro yn ôl o’r ysgol a gorwedd ar y gwely yn methu aros i wybod be oedd am ddigwydd nesaf.  Ond yn fy marn i, er mor hoffus ydy’r hobbits mae ’na ddarnau diflas a rhy hir.  Yr holl rhyfeloedd di-ri,  er engraifft.  Dwi ond wedi cyrraedd lle mae’r hobbits wedi cyfarfod Tom Bombadil ar y funud.

 

A be arall dwi wedi mwynhau?  Heb os ac oni bai, llyfrau Philip Pullman.  Ac mae un newydd ar gael yn y gyfres ddiweddaraf, The Book of Dust: efallai'r un olaf.  Mae’r ddwy gyfres yma yn fwy na phethau difyrrus.  Mae negeseuon eithaf difrifol yn y ddau am sut dyle ni drin pobl eraill ac ymddwyn; y pwysigrwydd o gyfeillgarwch...ac yn y blaen.  Wrth gwrs, yn aml, mae llyfrau ffantasi neu hyd a lledrith yn cael ei sgwennu ar gyfer plant.  Un gyfres mwynheais i gyda’n plant ni, pan oeddent yn ifanc, oedd “the Magician’s Mouse quartet"), er. wrth edrych rŵan, gwelaf fod yr adolygiad yn famau ddim mor dda. https://fantasyliterature.com/reviews/the-steps-up-the-chimney/ Dwi ddim yn siwr  fy mod yn cytuno a hefyd, roedd neges gref am gyd-fyw gyda a pharchu natur.  Ac roedd hynny’n bwysig i fi.

 

Dwi ddim wedi darllen llyfrau Philip Pullman am sbel ond dwi’n edrych ymlaen at ddarllen y llyfr olaf o’r “Book of Dust”.  Yn ddiweddar, wnes i ail-ddarllen cyfres David Eddings: The Belgariad a wedi mwynhau’r llyfrau yn arw.  Awdur Americanaidd oedd David Eddings, wedi sgwennu llawer o lyfrau ffantasi.  Ond y gyfres hon dwi wedi darllen.  Mae’r un elfennau yno ac sydd yn Lord of the Rings: mae pobl yn mynd ar gwest; yn teithio am yn hir ac yn cael ambell antur ar y ffordd.  Mi faswn i’n dweud bod yna fwy hiwmor yn llyfrau David Eddings – ac mae’r sgwennu’n dda.

 

A byddaf yn sgwennu am lyfrau ffantasi Gymraeg, hefyd. 

Monday, 27 October 2025

Mwy o gynghaneddu ac arddio

O’r diwedd dwi am gyfrannu i’r blog.  Rhywsut mae pethau wedi bod yn brysur - fel dwedais, dwi wedi dechrau ar gwrs cynganeddu (a oedd hynny’n syniad da, tybed?) ac wedi bod i ffwrdd yn cael hoe fach.



Ar y funud, beth sydd yn fy nharo i, ydy bod y clocs wedi newid, a bore ’ma, lle ’roedd hi yn ugain munud wedi 7 ddoe, heddiw mae hi ond yn ugain munud wedi chwech,  Mae hyn yn beth da am y bore.  Dwi wedi ei chael hi’n anodd codi yn ddiweddar oherwydd ei fod mor dywyll. Rŵan bydd hi’n olau erbyn 7, ond yn tywyllu  yn gynt gyda’r nos.  Felly dan ni’n paratoi am y Gwanwyn.  Prynhawn ddoe, rhois fylbiau cennin Pedr i mewn i’r ardd - ac mae 'na fwy i fynd i mewn.  Ond hefyd, mae’r cynhaeaf yn parhau.  Dyma bupurau o’r tŷ gwydr.  Maen nhw wedi dod yn hwyr, ond yn cochi rŵan ac yn flasus.

 

Hmmm... y cwrs cynganeddu.  Mwynheais y dosbarth gyntaf - ond wedyn roeddwn i ffwrdd am yr ail ddosbarth, a rhywsut yr oedd hi’n teimlo fel bod popeth wedi carlamu ymlaen pan ymunais a’r trydydd dosbarth.  Dwi’n dal i ddal i fyny (mae 'na bron (ond dim cweit!) cynghanedd yn fanna!).  Dydy’r peth ddim yn hawdd, yn sicr.  Ers gwers 3 dan ni wedi cael gwaith cartref.  Hmm.  Trïais fy ngorau gyda’r gwaith cartref gyntaf - a threuliais gryn dipyn o amser arni, ond gyda chanlyniadau cymysg.  Roedd y canlyniadau o’r gwaith cartref o wers 4 yn well - ond yn dangos fy mod heb ddallt y rheolau a’r mathau o gynghanedd yn iawn eto.  Dwi’n medru bod yn ystyfnig, felly dwi’n dal ati.   

 

Mi ddois i ar draws gwersi ar YouTube gan Aneurin Karadog: felly dwi wedi bod yn gwylio’r rheini hefyd.  Ond heb orffen eto.  Mae’r cwrs cynganeddu ond yn para am 9 wythnos: 9 gwers.  Sydd yn hynod o fyr gan ystyried bod prentisiaeth yn cymryd 9 mlynedd yn y canol oesoedd!! (Ond doedd youtube ddim yn bodoli).  Felly ymlaen a ni.  A dyma un enghraifft fach o (jest un lein o) gynghanedd: “Ar daith yw ein hiaith  o hyd”.  Ond mae rhaid ystyried mae ond y ddau air gyntaf (Ar daith) wnes i sgwennu.  Mater o lenwi’r bylchau ydy’r rhan fwyaf o’r ymarferion ar hyn o bryd!

Tuesday, 14 October 2025

Yr Hydref, heriau Cymraeg a garddio...

Wel, mae’r Hydref ar ei hanterth rŵan, a dwi’n hoff iawn o’r tymor yma, ond eleni, ar y funud, tywydd llwyd, digalon dan ni’n cael; dim y dyddiau heulog, lliwgar fasen ni’n licio!

 

Dechreuais gwrs newydd ar ddiwedd mis Medi, cwrs cynganeddu.  Ia, mi ŵn.  A dwi’n gofyn yr un cwestiwn.  Pam ar y ddaear? Ac yn ail, fyddaf yn medru ymdopi?  Un ateb i’r cwestiwn gyntaf ydy fy mod yn hoff o chwarae gyda geiriau, arbrofi gyda synau, a falle mai hyn yn un ffordd o wneud hynny, ond fel roeddwn yn ofni, mae ’na gymaint o reolau.  Dan ni ond wedi cyrraedd diwedd gwers 3 a chael gwaith cartref am y tro gyntaf, ac mae’r gwaith cartref yn anodd, wir yr.  Ond collais yr ail ddosbarth oherwydd yr oedden ni ar drip bach i ffwrdd am ychydig o ddyddiau - a doedd hynny ddim yn helpu o gwbl.  Mi lwyddais i ddilyn y wers, ond wrth drio dechrau ar y gwaith cartref (ryw fath o lenwi’r bylchau - ond eich bod yn gorfod creu llinell gyda chynganeddion) dwi'n ei chael hi yn eithaf anodd.  Mae rhaid cael geirfa digon eang am un beth.  Ond cawn i weld.  Gwnaf tipyn bach ar y tro.

 

Dan ni’n cael help gan arddwr o bryd i’w gilydd oherwydd mae’r ardd yn fawr.  Mi ddaeth o heddiw a chreu llecyn yn y bordor lle mae rhosyn am fynd.  Dwi ddim cweit yn siŵr pa rosyn, ar y funud.  Dwi wedi bod yn gwneud ymchwil ac yn ystyried rhai gydag enwau deniadol (ond Saesneg wrth gwrs) fel “Dainty Bess” (pinc) a “kew Gardens”.  Does 'na ddim digon o rosod yn yr ardd, felly dwi’n edrych ymlaen.

Tuesday, 16 September 2025

Tyfu planhigion

Un peth am weithio ydy’r strwythur: weithiau gormod - cyfarfodydd trwy’r dydd; rhestr o negeseuon ebost i ateb, cyrsiau i'w trefnu/sgwennu a.y.b..   Ond mi wn nad ydw i bob amser yn dda heb strwythur ac yn enwedig pan mae’r tywydd yn heriol.  Ar ôl ymddeol does dim llawer mae RHAID i fi ei wneud ar ddydd penodol.  Heddiw mae’r gwynt yn gryf ofnadwy (atgofion plentyn am Morus y Gwynt...)...Felly nes i ddim cerdded gymaint bore ’ma.  Roedd fy ffrind, Teo, y ci, wedi blino dipyn, beth bynnag.  Ddoe, gyda’r arolygon tywydd yn gaddo glaw drwm yn y prynhawn a hithau’n heulog ben bore, aethon ni am dro hir: ar hyd yr afon a rownd y cae isaf. 



Erbyn cyrraedd y goedwig fach ar y comin, roedd Teo braidd yn flinedig.  Mae o’n heneiddio, ond, fel meddyliais fase fo’n ei wneud, treuliodd weddill y dydd ar y soffa, tan amser cinio’r nos!  

 A heddiw, mae’r glaw wedi cilio (ac mae hi’n debyg ei fod wedi gwneud lles i’r planhigion i gyd...) ond mae 'na rybudd melyn ynglŷn â’r gwynt.  Ac i fynd yn ôl i be oeddwn yn dweud am ddiffyg strwythur, ar ôl gorffen cerdded, brecwast ac ymarfer corff, dwi ddim wedi gwneud llawer sydd yn arwyddocaol heddiw - ond wedi gorffen rhyw restr o jobsys mân a oedd rhaid eu gwneud.  Felly, allan i’r tŷ gwydr lle mae 'na bron wastad fodd i fyw.

 

Ryw wythnos yn ôl, prynais y potiau bach “jiffy” yma (“Jiffy” ydy enw'r cwmni).  



Mae 'na fawn neu rysgl ynddyn nhw (felly mae hi’n bwysig i brynu’r rhai di-fawn).  Maen nhw’n cyrraedd yn sych ac ysgafn ac ar ôl ychwanegu dŵr, maen nhw’n chwyddo.  Wedyn dach chi’n rhoi un hadyn (neu falle dau neu dri..) i mewn i bob un “cell”...ac aros.  Ac felly does dim niwed yn digwydd i'r planhigyn bach  pan mae hi’n amser i'w symud nhw.  Dyna’r damcaniaeth, beth bynnag.

Dwi wedi llenwi bob un gell erbyn hyn! ac yn gobeithio byddan nhw’n gweithio i fi.  Ac ar wahân i’r potiau bach yma, mae planhigion ar gyfer saladau yn cael eu tyfu hefyd. Mae’r letys ar y silff - oherwydd mae 'na gymaint sydd yn eu bwyta pan maen nhw’n fach a dwi’n defnyddio trefn “CCA”: (cut and come again) lle dach chi’n torri’r dail ac mae’r dail yn aildyfu yn eithaf cyflym.  Hefyd mae persli yn tyfu (yn araf: persli’r haf wedi gorffen); coriander; rhuddygl, pakchoi; mizuna a chêl a letys o hadau a sbigoglys: ac efallai fy mod wedi anghofio ambell blanhigyn.  Ond heddiw rhois yr hadau yma i mewn i’r bordor yn y tŷ gwydr: “komatsuma”: dail braidd yn debyg i sbigoglys.

Ond yn bendant mae’r tymor wedi troi.  Bydd y planhigion ciwcymber yn gorffen yn fuan.  Yn y cyfamser mae na lawer o giwcymberau bach i fwynhau... 


 


Saturday, 30 August 2025

Abaty Delapre a themtasiwn

Mae’r wyrion gyda ni am ddiwrnod bob wythnos yn ystod y gwyliau haf.  Ac yn aml dan ni’n mynd allan i amgueddfa neu rywbeth debyg.  Ar gyrion Northampton, mae Abaty “Delapre”.  Dydy o ddim yn abaty bellach, wrth gwrs, ond yn ôl yr hanes, llwyddodd yr abades a oedd yn rhedeg y lle i gadw’r abaty heb gael ei ddymchwel am ddipyn mwy o amser na abatai eraill.  Mae tipyn o’r hanes i gael yn fama:


Wedi ei sefydlu ym 1145, Abaty St Mary de la Prę roedd canolbwynt y gymuned ganoloesol.  Er nad oeddent yn gyfoethog nac yn niferus, roedd gan y lleiandy ran i'w chwarae yn Lloegr ganoloesol o hyd.  Ym 1291 by farw Eleanor o Castile, gwraig y Brenin Edward 1, ac wrth teithio gyda ei chorff, arhosodd y parti brenhinol yn eglwys yr Abaty dros nos.  (Dyma’r un brenin a oedd yn gyfrifol am adeiladu Castell Caernarfon ym 1283).  Ar ol ei marwolaeth, cododd Edward 1 groes ym mhob lle yr oedd y daith wedi oedi, ac mae’r groes tu allan i’r abaty yna o hyd.



 




Ym 2018, ar ôl gwaith adfer helaeth, agorwyd yr adeilad hwn o'r diwedd, i bawb ei fwynhau.  Dan ni a’r ŵyrion (dyna New yn u llun) yn mynd yna o bryd i’w gilydd.  Fel arfer dan ni ddim yn mynd i mewn i’r hen abaty (er bod hynny’n bosib os dach chi’n talu) ond yn crwydro yn y goedwig sydd o gwmpas yr abaty, yn cael cinio, ac yn ymweld â’r ardd gaerog sydd yna.  Yn fama mae tai gwydr swmpus a diddorol a hefyd siop lyfrau ail-law, a dyma lle dwi’n dioddef o demtasiwn.  Mae’r un peth yn digwydd yn Oxfam ar y stryd fawr yn ein tref ni, ac yn Olney lle mae siop lyfrau Oxfam.  Y tro yma, prynais lyfr RSPB “Garden Wildlife” ac o Oxfam, hen lyfr gan Sarah Raven, “The Great Vegetable Plot” (dwi’n dwli ar ardd Sarah Raven – stori arall ydy hynny) a hefyd, o Oxfam, llyfr am ynysoedd Shetland:  lle dwi wastad wedi bod eisiau ymweld a – ond mae hi’n bell iawn....

Friday, 29 August 2025

Problemau teuluol a thristwch

Ar ôl methu cysgu, a hithau yn gynnar o hyd (cyn 6 y bore) meddyliais baswn yn defnyddio’r amser, er fy mod yn flinedig, a sgwennu blog.  Byddaf yn trio cysgu eto amser cinio, i ddal i fyny.  Mae hwn am fod yn flog anodd ei sgwennu - llawer mwy difrifol na sgwennu am arddio neu gerdded; ond dwi’n meddwl ei bod yn bwysig trio.

Anodd gwybod pam mae insomnia yn taro.  Dwi’n mynd i gysgu’n iawn ond wedi codi a mynd i’r tŷ bach methu mynd yn ôl i gysgu.  Ond mi ges i newyddion drwg a thrist iawn ddoe, ac efallai dyna’r rheswm.  Mae teulu fy niweddar frawd  wastad wedi brwydro gyda bywyd bob dydd -  teulu “dysfunctional” heb os.  Mae fy nith hynaf wedi ei chael hi’n anodd iawn: pedwar plentyn - i gyd wedi tyfu i fyny erbyn hyn, ond y tri mab wedi syrthio i mewn i gwmni drwg, cymryd cyffuriau, dioddef o broblemau iechyd meddwl a.y.b..  Mae’r tri wedi bod yn y carchar yn ddiweddar,  ac mae un, Connor, yna o hyd ac am ddod allan yn fuan.  Cyn i bethau fynd yn ddrwg, roedd Connor a’i frawd Declan yn medru bod yn fechgyn annwyl iawn, ond dwi’n meddwl bod fy nith wedi eu ffeindio nhw’n anodd, a’i gŵr (a hithau) gyda phroblemau iechyd meddwl eu hun, hefyd.  Bu farw gŵr fy nith ychydig o flynyddoedd yn ôl, o gancr.  Ers hynny mae hi wedi bod ar ei phen ei hun gyda’r “plant”, sydd i gyd, erbyn hyn, wedi tyfu i fyny, ond bod gan y bechgyn broblemau enfawr.

 

Bu farw fy mrawd bron bedair blynedd yn ôl, a fy chwaer yng nghyfraith dwy flynedd yn ôl.  Felly mae’r nithoedd a’r neiaint wedi colli eu rhieni o fewn dwy flynedd ac (mi faswn yn meddwl) yn ei chael hi yn anodd.  Ac ar brynhawn heulog, ddoe, wrth adael yr archfarchnad leol, atebais alwad ffôn gan fy nith, i ddweud bod ei mab, Declan wedi marw.  Stori gymhleth ac efallai dof yn ôl ati.  Yn amlwg, ’roedd Declan wedi trio cael help gyda’i iechyd meddwl ond dim wedi llwyddo i gael y fath o help i wneud gwahaniaeth.  Am drist.  Mae gan un o fy neiaint  lu o broblemau iechyd: corfforol a meddyliol, a mae hi mor anodd cael yr help sydd angen.  Does dim llawer o gymorth o gwbl i’r difreintiedig.  Mae fy nai (ifancaf) wedi bod yn gweithio ond yn methu gwneud hynny rŵan oherwydd bod ei iechyd wedi dirywio gymaint ac mae’r fflatiau a'r tai o gwmpas yr ardal yma (fel mewn llawer o lefydd) yn ddrud ofnadwy.  Dydy o ddim yn medru talu am ei dŷ, bellach, ac am aros iddo gael ei droi allan a bydd rhaid i’r cyngor ffeindio rhywle iddo fo.  Gobeithio wir fydd hynny’n digwydd.

Wednesday, 27 August 2025

Nyth cacwn Awst 27

Dyma’r amser o’r flwyddyn pan dan ni’n torri’r coed yw.  Pan ddaethon ni i’r tŷ yma ar ddechrau’r 90au roeddent dipyn yn llai ac wedi cael eu tocio i’r siâp yma: 


Erbyn rŵan maen nhw wedi tyfu dipyn a does na ddim lle i gerdded rhyngddynt. Bob blwyddyn, bron, mae adar yn nythu ynddyn nhw, ond erbyn yr amser yma o’r flwyddyn mae’r tymor nythu ar ben.  Eleni daeth fy mab draw ar fore Llun i docio’r coed, ond yn anffodus, ar ol dipyn, cafodd ei bigo gan gacynnen a wedyn wnaeth o ddarganfod nyth cacwn.  Yn ffodus mae ganddo ffrind sydd yn delio gyda’r pethau yma yn ei gwaith a felly daeth o drosodd a cael gwared o’r nyth.  Ffodus iawn a hithau’n ŵyl banc.  Ond mae'r orchwel ar ei hanner a bydd rhaid gorffen y tocio: fory os fydd y glaw yn cadw draw.


Mewn un ffordd roeddwn yn drist bod y cacwn yn cael eu ddinistrio, ond doeddwn i ddim yn meddwl ei fod yn syniad da iddynt aros yna efallai tan mis Tachwedd - a ninnau’n methu mynd rhy agos.