Ailddysgu

Friday, 23 May 2025

A dipyn mwy o law

 O’r diwedd dan ni wedi cael rywfaint o law dros nos.  Dim digon o bell ffordd, ond bydd  y glaw wedi llenwi’r casgenni dŵr rywfaint a wedi helpu’r planhigion a oedd wir angen dŵr.  Mae hi wedi bod yn fis hyfryd yn yr ardd a dyma rhai o’r lluniau o rannau’r ardd drwy’r mis, ond mae hi wedi bod yn waith hefyd.   












Mae’r misoedd yma lle dach chi’n hau blodau a llysiau yn brysur beth bynnag, ond eleni mae ’na gwaith ychwanegol o ddyfrio .  A dwi heb gyfrannu at y blog ers i ni gael glaw ryw fis yn ol.  Mae hi’n bwysig trio arbed dŵr lle bosib felly mae rhaid penderdynu pa flanhigion sydd wir angen dŵr a pha rai fedr ymdopi.

 

Dyma rhan o fy rhestr i o’r planhigion wydn sydd yn medru ymdopi, o weld be sydd wed i bod yn digwydd dros yr wythnosau diweddara:

 

Bysedd y cŵn.  Mae’r rhain yn wych ar gyfer peillwyr, a dan ni wedi arfer eu gweld yn tyfu mewn llefydd eitha gwlyb, yng Ngymru a’r Alban OND maent yn goroesi mewn llefydd sych iawn hefyd

 

Geraniums.  Dydy’r rhain ddim wedi cael eu ddyfrio yn ein gardd ni a ddylan nhw fod yn iawn.

 

Gellysg - iris.  Yn dod o wledydd boeth a sych, mae rhai o’r rhain yn hapus mewn sychder (ond dim bob un, cofiwch)


 A rhosod, sydd hefyd yn dod o wledydd sych a chynes.