Ailddysgu

Tuesday, 30 December 2025

Llwynogod - eto

 Mae’r ymddiriedolaethau bywyd gwyllt yn ein hannog ni i wneud gweithgareddau i gefnogi bywyd gwyllt ar y 12 diwrnod o Nadolig.  Fel dach chi’n gwybod dwi’n trio gwneud y pethau yma beth bynnag ac yn aelod o fy ymddiriedolaeth leol.  OND, gwelais fod modd cael yr e-bost yn y Gymraeg, felly dyma fi yn derbyn yr her ac yn cael neges e-bost bob dydd.  Ddoe, dyma’r benawd:

Mae'n Ddiwrnod chwech 12 Diwrnod Gwyllt ac mae gwahoddiad i chi sianelu eich llwynog mewnol!

 

Felly neithiwr, ar ôl diwrnod a oedd braidd yn segur ar brydau, es am dro am ryw dri chwarter awr i lawr y llwybr a oedd unwaith yn rheilffordd (the railway walk).  Mae’r llwybr yma yn cychwyn yn agos iawn i fy nhŷ: 5 munud i ffwrdd ar droed.  Mae o’n mynd heibio rhandir ac mae ’na ddigonedd o lecynnau gwyrdd eraill yn eithaf agos.  Ac mae o leiau un bâr o lwynogod yn byw ar y rhandir fel gwelwch yn y llun isod.  (Tynnais y llun yma dipyn o amser yn ol, ac yn yr haf).

 



Mae ’na oleuadau ar hyd y rhan fwyaf o’r llwybr felly doedd o ddim yn teimlo’n beryglus na rhy dywyll i gerdded am dipyn ar hyd y llwybr - ac ar ôl ugain munud, dyna’r llwynog gyntaf .  Mae llwybr bach yn mynd o’r llwybr reilffordd i stâd sy’n agos ato a dyna’r llwynog yn rhedeg heibio car.  Llwynog mawr a oedd i’w weld yn iach iawn.  Ond wrth gwrs, erbyn i fy nghyrraedd lle welais i fo, roedd o wedi mynd.  Felly yn ôl ar y llwybr, ac ar ôl ryw 10 funud, gweld llwynog arall.  Doedd yr un yma ddim yn agos iawn a diflannodd mewn chwinciad, ond mor braf ydy cael gweld yr anifeiliaid yma.

 

Ar ôl hynny es i chwilio mewn llefydd a oedd yn debyg o ddenu llwynogod, ond ni welais un arall.

Monday, 1 December 2025

Dechrau’r tymor Nadolig?

Sgwennais hwn ar y 30ain o Dachwedd.  Dwi ddim yn un am ddechrau Dolig yn gynnar iawn, rhaid dweud.  Dwi ddim isio gorfod meddwl am beth i'w fwyta, pa bresanta i brynu a.y.y.b: yn rhy gynnar. Ond roedd y goleuadau'n cael eu troi ymlaen yn y dref, ac fel arfer, es i yna gyda fy ngŵr a’r ci.  Dydy’r dref ddim yn fawr, ond mae ’na awyrgylch bositif a chyfeillgar.  Wnaethon ni geisio mynd i’r tafarn gyda’n mab a’i deulu - ond sefyll oedd rhaid gyda’r tafarnau mor brysur â llawn.

 

Bore ddoe roedd cyfarfod y Gymdeithas Gymraeg yn “The Swan” a llwyddais i ymuno - er bod y daith fer i fynd yno yn wlyb ofnadwy.  Mae’r grŵp eithaf newydd yma yn cyfarfod bob mis, jyst i gael sgwrs yn y Gymraeg.  Ond criw bach oedden ni ddoe: digwyddiadau eraill yn galw, a’r glaw yn broblem i’r rhai oedd am feicio o bell.  Dan ni am gyfarfod unwaith eto ychydig o ddyddiau ar ol



y Nadolig.  Braf iawn cael cyfle i siarad Cymraeg yn y dref lle dwi’n byw!

Ac mae’r cwrs cynganeddu yn dod i ben.  Profiad cymysg.  Yn sicr, dwi wedi dysgu pethau ac yn gwerthfawrogi’r rhai sydd yn medru creu cerddi caeth.  Ond dros y pythefnos ddiwethaf, mae trio sgwennu englyn sydd yn gweithio yn dechnegol (wnawn i ddim sôn am yr ystyr, eto) wedi bod yn fwy rhwystredig na phleserus - er i fi gael adborth da gan y tiwtor, mwy nag unfaith.  Dwi’n trwsio un peth - i gywiro'r gynghanedd - ac mae rhywbeth arall yn gwaethygu!  Profiad felly.  Efallai beth fydd yn aros ydy medru clywed a (weithiau) dadansoddi cynghanedd mewn cerdd.  Dwi wedi dechrau gwylio’r ffilm o’r awdl gan Tudur Hallam a enillodd yn yr Eisteddfod eleni.  Am gamp.