Ailddysgu

Friday, 9 January 2026

Ionawr 8: Tywydd, yr ardd a bywyd gwyllt

'



Roedd y tywydd yn wych dros Nadolig a’r flwyddyn newydd os dach chi’n iawn gyda thywydd oer iawn - ond heulog.  Treuliais dipyn o amser yn cerdded ar y comin gyda’r awyr yn las iawn: a gydag ychydig o haenau cynnes roedd cerdded yn teimlo’n braf.  Dyma sigldi-gwt a oedd yn brysur yn bwydo mewn pwll bach ar y comin a coch dan adain yn y gwrych.

 Yn agosach i adre, dan ni’n cael newid y palmant sy'n cael ei ddefnyddio ar y ddaear yn yr ardd ger y tŷ. Gwnaed hwn o frics, ac mae'n ddeniadol, ond briciau hen dŷ yw'r briciau ac ni fwriadwyd erioed at y diben hwn, mewn gwirionedd. Felly mae ganddyn nhw ymylon garw ac maen nhw'n anwastad iawn. Cwymp sy'n aros i ddigwydd.  Mae'r cwmni sy'n gwneud y gwaith yn defnyddio palmentydd carreg wedi'u hailgylchu a dan ni’n edrych ymlaen at y canlyniad.

 

Dyma sut oedd y ddaear:

 




A dyma sut mae hi ar y funud, wedi i’r briciau hen cael eu codi.  

 


Yn anffodus mae’r tywydd am droi yn arw.  Pwy a ŵyr os cawn ni eira yn fama - fel arfer dan ni ddim yn cael llawer.  Ond mi fydd yn wlyb iawn: rhy wlyb i godi a gosod slabiau palmant.  Felly  bydd rhaid aros i’r tywydd gwella.


Yn y cyfamser dwi wedi codi llawer o’r planhigion crocws, a oedd ychydig yn rhy agos at yr ymyl.  Maen nhw wedi cael eu symud: rhai i’r tŷ gwydr a rhai i lefydd eraill yn yr ardd.  Mae’n dda cael rhai blodau yn y tŷ gwydr ar gyfer y gwenyn cynnar.  Ar ddiwrnodau glawog neu oer pan all fod yn anodd cyrraedd y blodau yn yr ardd, gall y gwenyn chwilota am fwyd yn y tŷ gwydr.

 

A hefyd yn y cyfamser, os ydy’r tywydd yn ofnadwy, cyfle  i glirio yn y tŷ, ar bethau nad oes eu hangen arnom fwyach.  Ac mae ’na fynydd o’r rheina!

Saturday, 3 January 2026

Diwrnod 7

A heddiw (31Rhagfyr) mae hi’n ddiwrnod saith a dyma’r bennod a’r frawddeg gyntaf:

 

“Mae hi'n Ddiwrnod saith o 12 Diwrnod Gwyllt ac mae'r dasg o'u rheoli i'w rhannu.”

 

Mewn coetir conwydd tawel, mae fflach o goch yn gwibio rhwng y coed… y wiwer goch gudd, yn brysur yn chwilota am fwyd ar gyfer y gaeaf.”

 

Yn anffodus, does dim gwiwer goch yn agos i fi o gwbl, felly es yn ôl i weld y lluniau o wiwerod coch a thynnais eleni yn yr Alban.  Dyma un a oedd yn bwydo fel aderyn.  Mi faswn wrth fy modd yn gweld gwiwerod coch yn agosach i le dwi’n byw, ond rhaid mynd i Droset i ynys Brownsea am hynny (163 milltir).  Mae Sir Fôn yn bellach!





Tynnwyd y llun yma yn Aigas, y llynedd.  Cawson ni (fy ffrind a fi) wythnos wych yn Aigas, sydd yn ganolfan bywyd gwyllt.Wel, field centre yn Saesneg ond dydy hyn ddim yn cyfieithu yn uniongyrchol nac ydy?  Dwi ddim yn meddwl mai Canolfan Maes ydy beth sydd angen yn fama.  Beth bynnag, dwi’n siŵr fy mod wedi sôn am fy mhrofiad pan ddes i adre, mewn blog.  Ond na, dwi wedi tsecio a gweld fy mod heb gofnodi’r profiad hynny!  Lle arbennig iawn, lle gwelson ni eryrod aur, dolffiniaid, cogydd a gymaint o adar a hefyd ymweld â llefydd mor brydferth fel Loch Maree a chymoedd di-ri.  Dyma lun o giw tylluan frech a oedd wedi syrthio (neu ddringo?) allan o’r nyth.  Ond yr oedd y gwardeiniaid yn hyderus fase’r rhieni yn ei warchod.





A dyma un o’r cathod gwyllt sydd ar y stad fel rhan o raglen bridio.  Mae’r gath wyllt yn yr Alban yn brin iawn r rŵan a thrwy raglenni fel hwn, mae hi’n bosib tyfy’r boblogaeth a rhyddhau cathod yn ôl i’r gwyllt.  Hyd at hun mae’r ymgais wedi bod yn llwyddiannus.  




Dal i fyny: sgwennais hyn y llynedd, 29 Rhagfyr

Wel, mae’r Dolig drosodd a dwi ddim yn gwneud llawer gyda’r Flwyddyn Newydd,  Trio anwybyddu’r sŵn y tân gwyllt sydd yn fy neffro i o gwmpas hanner nos.  Roedd y Nadolig yn dda: heblaw am salwch meddwl ein mab, sydd yn golygu ei fod yn yr ysbyty eto ac yn waeth na mae o wedi bod o’r blaen, yn anffodus.  Felly rhwng y cwcio a’r clirio a thipyn o gymdeithasu, dan ni wedi bod yn ymweld â fo.

 

Ŵn i ddim be fydd yn digwydd,  Y tro yma, mae o wedi gwneud niwed i’w fflat: wedi tynnu cypyrddau oddiwrth y wal,  a malu un ohonyn nhw, symud yr oergell a’r rhewgell (i’r stafell mochi?!) ac mi oedd o wedi gadael prydau o fwyd ar y platiau i bydru a drewi, ond wnaethon ni ymweld â’r fflat cyn i hynny ddigwydd a glanhau’r gegin.  Rhywfaint, beth bynnag.  A dydy o ddim yn derbyn bod ’na cysylltiad rhwng seicosis a chymryd cyffuriau fel canabis, ac mae ’na gysylltiad cryf....

 

Rhwng pethau Nadoligaidd; a’r ymweliadau a’r cyfarfodydd gyda fo â’r doctoriaid, dwi wedi bod yn trio cadw fy hun yn gall ac yn dengyd i ddarllen.  Daeth pecyn bach o lyfrau Cymraeg o Palas Print, y siop lyfrau yng Nghaernarfon.  Archebais  Gors y Bryniau (Kate Roberts); Dau (Bethan Nantcyll) a Dan Ormes, gan John Alwyn Griffiths, a rhoddais restr o lyfrau Cymraeg i fy mab ac i ffrind rhag ofn eu bod isio gwbod be faswn yn ei hoffi am anhreg Dolig.  Ac felly mi ges i Ble Aeth Elen Puw (Linda Wyn) a Paid Deud gan Mari Emlyn.  Hyd yn hyn dwi wedi darllen Dan Ormes a Paid a Deud: y ddau yn ardderchog mewn ffyrdd gwahanol.

 

Mae Ble Aeth Elen Puw yn aros amdanaf, a hwn ydy’r llyfr dan ni wedi ei ddewis ar gyfer cyfarfod nesaf y clwb darllen  er dydy’r cyfarfod ddim tan fis Mawrth. Yn rhyfedd, er fy mod wedi dod yn gyfarwydd â iaith y De erbyn hyn, mae’r gair “Ble” yn hytrach na’r fersiwn Ogleddol “Lle” yn dal i sownio mor estron.  Ac ar ol y llyfr yna, mae llyfr Kate Roberts yn aros amdanaf a hefyd “Dau”.