Ailddysgu

Monday, 3 August 2026

Poeth a sych

Wel mae hi’n boeth ofnadwy yma heddiw: eto.  Ac er ei fod yn wych medru cerdded ar y comin yn yr haul erbyn 7 o’r gloch bron bob bore, mae hi’n sefyllfa sydd yn achosi gofid.  Mae bob man mor sych, a thannau gwyllt yn dinistrio coedwigai, natur a rhosydd yn y wlad yma a thai yn Ffrainc a Sbaen ac yn bygwth bywydau pobl.  Dwi’n wir gobeithio bydd llywodraethau yn dechrau gweithio i atal fwy o ddirywiad hinsawdd ond mae’n debyg mai arian sydd yn rheoli bron popeth.

 

Beth bynnag, dwi’n trio cadw pethau’n mynd yn yr ardd, lle mae hi’n bosib.  Mae rhai pethau, fel y llysiau'r milwr coch (loosestrife) yma yn ffynnu.  Dim y rhai gwyllt dan ni yn eu gweld yn y cefn gwlad ydy’r rhain, ond blodau’r ardd.  Mae’r rhosod newydd yn goroesi, ond faswn i ddim yn dweud eu bod yn ffynnu.  “Dainty babis’ ydy enw’r rhosyn - a gwnes waith ymchwil drwyadl a dewis hon am ei fod yn addas i’r llecyn (dim rhy fawr), a gyda blodau sengl - sydd yn bwysig i’r peillwyr.  Dyma lun ohoni yn gynharach yn y flwyddyn.




 Felly dwi’n treulio oriau yn dyfrio ar y funud: gyda chan dyfrio.  Dwi’n dechrau gyda’r tŷ gwydr yn eithaf cynnar yn y dydd (ar ôl hynny: rhy boeth!).  A dwi wedi dysgu bod wylysiau ( aubergines) ddim yn hoff o dywydd poeth, poeth a dydy’r ffrwythau ddim yn datblygu.  Ond mae rhai mathau yn gwneud yn well nac eraill.  Mae’r rhai tenau, hir yn gwneud yn dda - ond dim y rhai tew dwi’n hoffi!  Dwi wedi rhoi blodau rhwng y wylysiau a rhwng y planhigion pupur hefyd. Blodau Mair (marigolds) - i atal y pryfed gwyn, a ”cerinthe“ i ddenu peillwyr.  A heddiw gwelais fod gwenynen gribog  yn brysur yn eu peillio.





Er gwaetha’r poethder dwi wedi llwyddo i gael gnwd o domatos,  ciwcymber (gymaint!), courgettes, ffa ac ambell fefus?  Mae’r mafon hydrefol yn blodeuo a dwi’n cael ambell ffrwyth, ond dydy nhw ddim yn hoffi tywydd poeth o gwbl – ac yn bendant ddim yn hapus gyda tywydd sych, felly dwi wedi bod yn eu dyfrio dipyn.