Ailddysgu

Thursday, 24 September 2026

Gwalia Aleighcia

Mi ddois ar draws rhaglen Aleighcia Scott “Gwalia Aleighcia” ar hap a damwain.  Digwydd gweld hen raglen o Heno (a ddarlledwyd yn ôl ym mis Awst) lle'r oedd Aleighcia yn sôn am y gyfres newydd yma, sydd yn trafod hanes a chaneuon Cymraeg.  Yn y bennod gyntaf mae hi yn y gogledd yn trafod shantis: ym Miwmares ac yng Nghaernarfon.  Mae Aleighcia wedi dysgu Cymraeg yn eithaf diweddar a rŵan yn canu yn Gymraeg.  Dwi wastad wedi meddwl bod cerddi a chaneuon yn ffordd wych o ddysgu iaith hefyd.

Yn fy mlog am gerddi Caernarfon soniais am y sgwennu ar y llawr ar y cei a sut roeddwn wedi tynnu lluniau o lawer o’r dyfyniadau.  Ond rywsut, doeddwn ddim wedi tynnu llun o ddyfyniad o “Longau Caernarfon”: "Golau gwyrdd ar waliau wrth fynd heibio".  Dyna’r sianti sydd yn cael ei drafod yn y bennod gyntaf o’r rhaglen.  Hefyd soniwyd am y clwb hwylio eiconig yng Nghaernarfon a dwi'n cofio cael bach o hwyl yn y clwb hwylio lle roedd criw ohonon ni yn canu Llongau Caernarfon yn ystod un Ŵyl arall wrth i’r haul fachlud.  Dyma'r geiriau:



A dyma Hogiau'r Wyddfa yn canu Llongau Caernarfon:


Dwi wedi sôn hefyd mewn blog yn y gorffennol mai un o ddigwyddiadau yn ystod Gŵyl Arall weithiau oedd trip ar y Fenai yn gwrando ar siantis.  A dwi'n cofio canu sianti ar un o’r tripiau yno: dim “llongau Caernarfon” ond sianti arall boblogaidd: “Fflat Huw Puw”.  (A dyna ddysgu rhywbeth bach ar y pryd – mai math o long ydy “fflat”.)  


Wrth sôn am bethau morwrol ddylwn gofio am Ellen Edwards a sefydlodd ysgol forwriaeth yng Nghaernarfon, lle dysgodd dros 1,00 o ddynion i fod yn forwyr (roedd sôn am hyn yn rhaglen Aleighcia hefyd).  Digwyddiad rhyfeddol wrth gofio mai merch oedd Ellen a oedd wedi dysgu morwriaeth oddiwrth ei thad, yn Amlwch, Sir Fôn a bod ni’n sôn am y ddeunawfed ganrif – 1830!


Tuesday, 22 September 2026

Ffeirio

 Soniais yn y flog diwethaf am y cymunedau sydd yn datblygu wrth i bobl arddio, ac mae hynny wedi ei adlewyrchu yn y ffeirio sydd wedi digwydd yn ddiweddar.  Mi ges alwad ffôn gan hen gymydog.  Roedd Barbara yn byw gyferbyn ein tŷ.  Mae hi wedi symud i lawr y lôn ac wedi cael rhandir gwahanol ac yn amlwg wedi cael cnwd da eleni.  Roedd ganddi hi lawer mwy o domatos gwyrdd nag oedd hi angen.  Felly dyma fi’n cael dau fag llawn o domatos gwyrdd, a’r bwriad oedd gwneud siytni tomato gwyrdd.  




I wneud hynny, mae angen afalau cwcio, ond does gen i ddim digon, felly cysylltais â chymydog arall (sydd wedi symud, hefyd, ond dim rhy bell).  Mae Caroline yn arddwraig gwych ac mae gen hi randir hefyd, a mwy o afalau cwcio na mae hi’n medru ymdopi â.



A dyma fag mawr o afalau yn dod.  Rhois dipyn o ffigys iddi hi - maen nhw’n fach eleni, ond yn flasus o hyd.  A byddaf yn gwneud y siytni pan fydd amser gen i - ond yn eithaf buan.  Efallai bydd fy wyres yn helpu'r prynhawn yma ar ôl ysgol?  Mae digon o’r tomatos gwyrdd i roi i ffrindiau eraill, hefyd: a dyna ni: siytni yn rhad ac am ddim, a chyfeillgarwch yn cael ei gryfhau.

Friday, 18 September 2026

Cynhaeafu, afalau a chymuned

Yn ystod yr wythnos mi es i weld cymydog, Jean, sydd yn byw yn agos.  Mae gardd Jean drws nesaf i fy ngardd i, gyda wal fy ngardd yn eu gwahanu.  Ychydig o flynyddoedd yn ôl yr oedd fy mab hynaf, Tebor, yn garddio i Jean, sydd rŵan yn ei wythdegau hwyr, er doedd hi erioed yn arddwraig!  Mae gardd Jean digon mawr a gofynnais iddi hi a fase hi’n hoffi cael coeden afalau yn yr ardd? Coeden afalau cwcio.  Doedd dim lle ar ôl yn fy ngardd i, a’r syniad oedd ffeirio afalau cwcio am afalau bwyta.  Felly dyma Tebor yn plannu’r goeden afalau.

Yn anffodus dirywiodd iechyd Jean cyn i ni gael cyfle i hel afalau, ac yn fwy anffodus syrthiodd yn y stryd ym mis Mawrth a threuliodd amser hir yn yr ysbyty ac mewn cartrefi gofal yn gwella ar ôl torri ei chlun.  Ar ôl y cwymp, gwaethygid yr alzheimer yn sylweddol, ac ond yn ddiweddar mae hi wedi cael dod adre.  Dwi wedi bod yn ymweld â hi yn yr ysbyty, ac yn ddiweddar yn ei chartref, ac am y tro cyntaf, roedd afalau swmpus ar y goeden - er gwaethaf y tywydd poeth a sych.



Dyma’r afalau - byddaf yn gwneud crymbl dros y penwythnos a mynd a pheth iddi hi.  Ar raglen garddio yn ddiweddar, rhoddwyd cyngor i rywun a oedd eisiau coeden afalau (ond gydag ond lle i un) i ofyn i , neu berswadio cymydog i blannu coeden afalau.  A dyna be wnaeth i fi feddwl am drefniant Jean a fi.  Mae garddio - yn enwedig rhandiroedd yn dod a phobl at ei gilydd, ac yn gallu tyfu cymunedau yn ogystal â gerddi.  Wythnos yma, roedd y rhaglen Garderers’ World ar y teledu yn sôn am randiroedd, y cymunedau sydd yn rhan ohonyn nhw, a’r cyfeillgarwch sydd yn medru datblygu, fel yr un rhwng y ferch sydd yn ei hugeiniau cynnar a’r dyn sydd yn wythdeg ac yn rhannu rhandir.  Da, te?

Wednesday, 2 September 2026

Yn yr ardd


Wel, o’r diwedd mae’r poethder wedi mynd - ac mae hi’n dipyn o sioc gweld nad ydy’r haul yn gwenu BOB bore; a hefyd dan ni wedi cael tipyn o law, felly fydd hi’n bosib, gobeithio, i fi hau hadau ar gyfer yr Hydref.



Hefyd dwi am ychwanegu planhigion a fydd yn ymdopi mewn tywydd poeth a sych.  Un o’r rheini ydy marjoram neu oregano.  A dweud y gwir, dwi ddim yn siŵr am y gwahaniaeth rhyngddyn nhw: maen nhw’n perthyn yn agos i’w gilydd.  Beth bynnag, mae oregano yn tyfu yn yr ardd mewn un lle, ac yn denu peillwyr ac yn blodeuo am yn hir, felly meddwl oeddwn i am gael mwy.  Dwi’n dallt bod modd eu lledaenu nhw trwy roi sprigau mewn dŵr, felly, dyna be dwi wedi ei wneud a chawn weld be sydd yn digwydd.  Mae perlysiau Mediteranaidd yn ymdopi’n dda gyda diffyg dŵr a thywydd poeth, a gwelais syniad ar raglen teledu i’w defnyddio yn y borderi yn hytrach na mewn lle neu wely arbennig.

 

Wedi tsecio, mae tipyn o berlysiau gen i yn barod, ond falle basai un neu ddau deim gwahanol yn syniad da, Hefyd bydd yn syniad da  cymryd toriadau o lafant a falle saets.

 

Yn y tŷ gwydr, dwi wedi gorfod tynnu’r ciwcymbr allan, fel soniais mewn blog arall.  Ond dwi’n gobeithio bydd y pupurau yn llwyddo rŵan i gynhyrchu digon o ffrwythau.  Dan ni wedi bod yn bwyta pupurau yn barod.  A’r un peth gyda’r aubergines.  Er bod y dail yn edrych yn sâl ac anhapus, fel gwelwch yn y llun, rŵan dydy hi ddim mor boeth, gobeithiaf bydd y ffrwythau yn parhau i dyfu’n dda.




A hefyd, rŵan bod tipyn o law wedi dod, byddaf yn torri’r blodau sydd wedi mynd heibio ac yn twtio’r ardd.