Yr Hydref: sychder, glaw a chynhaeaddu Hydref 7fed
Mae hi’n parhau yn sych yn fama, er bod arolwg law heddiw - a dan ni wir angen glaw yn yr ardd. Mae hi’n haws gweithio yn yr ardd rŵan bod y tywydd poeth wedi mynd, ond mae popeth angen dŵr. Felly dwi’n treulio llawer o fy amser yn yr ardd yn dyfrio...Ond rŵan ydy’r amser hefyd i gymryd toriadau o blanhigion i’w lledaenu a dyna be dwi wedi gwneud gyda lavant a saets. Rhaid cadw’r lleithder i mewn ac felly mae cloches plastig yn gwneud y tro..
O’r diwedd, mae’r cosmos wedi dod ymlaen yn dda ac yn ddel iawn. Maen nhw yn gwrthsefyll sychder - ond dim gymaint ag sydd wedi bod eleni. Felly cadw nhw’n fyw oedd y nod ac unwaith roedd y poethder wedi mynd, dyma nhw’n ffynnu.
Yn y tŷ gwydr, mae’r pupurau yn dal i aeddfedu ac yn flasus iawn, ac mae ’na domatos o hyd sydd isio amser i droi’n goch go iawn. Mae banana yn helpu’r rheini i droi os dach chi’n eu rhoi nhw mewn bag papur brown gyda’r fanana.



