Dechreuad
Gwych i’r Gŵyl: Galwad Cynnar yn yr ardd: hynny yw - gardd Palas Print.
Dyma ’r ail flwyddyn i’r rhaglen gael ei ddarlledu o’r siop. Ac am syniad
da.
Felly ar ben bore Sadwrn gyda’r
tywydd yn braf codais yn gynnar a mynd i lawr at y Fenai erbyn 5.45 i fwynhau’r
bore hyfryd, a wedyn i’r siop erbyn 6. Dyma llun dwi’n hoffi: ryw
hen dŷ neu dŷ cwch? ar lannau'r Menai yn edrych yn dda yn yr haul
gynnar:
a gorhedydd y graig: mae'r rhain i'w
weld yn y dre:
Mae
Galwad Cynnar yn raglen mor wych a mi oedd o’n braf ofnadwy cael bod allan yn yr
ardd. Ddoe roedd y panel yn cynnwys Twm Elias, Elinor Gwynn, Math Williams a
Kelvin Jones. Ges i ddim llun o bob un
ar y panel, ond dyma llun o Twm Elias a Gerallt Pennant:
A'r ardd a dynnodd rhai o sylw y banelwyr: y mafon [ a tra roedden ni yn
gwylio roedd fwyalchen yn bwyta un neu ddau], a'r afal tindwll, [os dwi wedi
cael hi'n iawn] neu merysbren [sydd ddim yn achosi gymaint o
chwerthin!]. merysbren [ond dydy o ddim yn achosi gymaint o
chwerthin!]. Yn ol un ffynhonell “Ceir enwau
Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Merysbren Afal Agored, Afal
Tindwll, Dindoll, Meryswydden, Tinagored, Tindoll.”
Mae'r
ddwy flanhigyn yn gwneud yn dda iawn yma:
A ddoe, fel y disgwyl, dipyn o
bwyslais ar lyfrau. Roedden yn clywed barn y panelwyr ar sawl lyfr natur
sydd wedi cael ei gyhoeddi ynn ddiweddar. Un llyfr a dynnodd fy sylw i
oedd The Seabird Cry gan Adam Nicolson. Gwelais y llyfr
yma mewn siop lyfrau yn yr Alban a roedd Elinor Gwynn wedi ei fwynhau yn arw.
Felly un i’w brynu yn bendant.
Ond roedd llawer mwy o drafod
diddorol, mwy na sydd yn bosib i grynhoi ac wrth gwrs, mae o'n hawdd i ddal i
fynny gyda'r rhaglen os dach chi ddim wedi cael cyfle i wrando arni hi.
Mae hi ar gael ar app BBC - a mae o'n bosib cael bodlediad o'r rhaglen
hefyd. Dyna be dwi yn gwneud fel arfer a wedyn yn medru gwrando arni hi
pan dwi'n beicio, garddio neu coginio - neu gwneud dim byd arall!