Ailddysgu

Tuesday 16 July 2024

Diwrnod i'r Brenin

Mi ges i ddiwrnod gwych ar fy mhen-blwydd “arbennig” ddoe.  Un gyda 0 ynddi hi.  Doedd y tywydd ddim yn addawol, ond aethom i’r warchodfa leol am awran ac wedyn gartref lle'r oedd fy ngŵr wedi trefnu syrpreis.  Fy mab ifancaf oedd y sypreis.  Gan nad ydy o yn gyrru - a’i bartner wedi cael damwain sydd yn golygu na fedraf gerdded llawer na gyrru, dan ni’n gweld nhw yn eu tŷ.  Ond ddoe daeth Tadsy ar ben ei hun i’w gweld ni, ac roedd hynny’n hyfryd!  Dim brys - jyst cael amser i siarad a hel atgofion. 

Pan roedd rhaid i Tedis ddychwelyd, aeth Jim a fi ar y bws i’r ddinas, yn gyntaf i Waterstones i gael spec o gwmpas ac i brynu llyfru ddiweddara Colm Toibin: Long Island.  Dilyniant ydy hwn i Brooklyn, a mae o’n wych.  A gyda’r nos cael cinio gynnar yn Brasserie Blanc: cerdded yno a wedyn cael tacsi yn ol.  A cyfarfod a ffrind yna.  Bwyd gwych ar ol diwrnod ardderchog.

Dyma'r warchodfa a fy mab, ac un o'r llyfrau yn Waterstones.





Tuesday 2 July 2024

Al lan y môr

Dan ni ar ein gwyliau rŵan, yn aros yn Camber Sands yn Sussex.  Erioed wedi bod yma o’r blaen a mae o’n cymryd amser i ddod i arfer gyda’r lleoliad ac i weithio allan beth dach chi isio gwneud.  Wrth gwrs byddaf yn chwilio am bethau ynglyn â natur, a mae ’na ddigon o hynny.

Yr ochr arall o’r traeth hir mae gwarchodfa natur Rye Harbour - er, i gyrraedd y warchodfa (mae afon yn y ffordd) rhaid gyrru mewn cylch.  Mae’r warchodfa yn hyfryd - ac yn lle gwahannol iawn i be dwi wedi arfer efo.

 

Ond ychydig o amser dan ni wedi cael yno.  Dydy fy ngŵr ddim yn medru cerdded gymaint y dyddiau yma, ond mae caffi bach ar y warchodfa felly dyma ei adael o yno yn darllen y papur newydd tra roeddwn i yn cerdded o gwmpas.  Does dim lluniau i ddangos achos fedraf i ddim ei lawr lwytho o famau - dim lluniau adar beth bynnag. Ond dros ddau ddiwrnod dwi wedi gweld gylfinir, pioden y môr (llawer, llawer), gwenoliaid y môr cyffredin, avocet, pibydd coesgoch, a.y.y.b. ac aderyn na fedrwn ei adnabod.  Ond ni chefais gip digon da - roedd ei gefn ataf.  Aderyn llawer mwy na phioden y mor, ond du a gwyn....Falle, ar ôl ei lawr lwytho caf roi fy llun ddrwg ar Facebook Galwad Cynnar!

 

O ran blodau, mae rhywogaethau diddorol yma - a phrin.  Mae o’n llecyn arbennig.  Bore ’ma cerddais o’r tŷ ar draws y maes golff sydd yn agos i dwynni.  A gwelais flodau gwych yn fanno hefyd.