Ailddysgu

Friday, 29 November 2024

Ffwng a mwy o enwau Gymraeg

Dwi wedi bod yn darllen mwy am enwau madarch yn “O’r Pedwar Gwynt”:  rhifyn Hydref 2024.  Erthygl gan Morgan Owen.  Ar ôl y mabinogi, yn ôl Morgan Owen, does dim llawer o sôn am fadarch am ganrifoedd: “Wedi’r cyfeiriadau cynnar, cymharol brin yw’r sôn am fadarch yn y Gymraeg, ar y cyfan” ac mae Morgan yn cyfeirio at “prinder llwyr, bron, o enwau Cymraeg cynhenid am fadarch neilltuol”.  Pan dych chi’n meddwl am faint o enwau sydd ar gael ar gyfer blodau, roedd hyn yn dipyn o syndod i fi.

 

Mae yna ambell un: “Y Cingroen” ydy’r stinkhorn (Phallus impudicus)



 ac mae hi’n debyg bod madarch y gwybed yn cyfeirio at Amanita muscaria: madarch hardd iawn ond gwell peidio eu bwyta!  (Er bod rhywbeth neu rywun wedi bod ati gyda'r un yn y llun!)



Mae’r erthygl yn cadarnhau mai “cwd y mwg” ydy’r enw Cymraeg am puffball: a dyna’r enw  a gefais gan Martin Coleman pan ofynnais y cwestiwn ar wefan Galwad Cynnar.  Mae o’n debyg bod madarch ddim yn gair cyffredin yn ôl yn yr 1870au, a hefyd does dim cysondeb yn y geiriau sydd yn cael eu defnyddio: yn aml mae mushroom yn cael ei ddefnyddio am beth sydd yn fwytadwy a madarch (neu medyrch yn y lluosog) am bethau gwenwynig.  Mae pethau yn newid erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif a phan gyhoeddwyd Geiriadur yr Academi yn 1995 gwelwn enwau Cymraeg ar rai madarch.  Mae sawl enghraifft yn yr erthygl.  A diolch i’r erthygl am sôn am y Bywiadur.  Er fy mod yn wybodus o Lên Natur, dwi ddim wedi mynd i’r wefan am dipyn, felly chwiliais am “wrinkled peach mushroom” yn y Bywiadur: madarch a oedd i’w weld yn yr ardal yma yn gynharach yn y flwyddyn.  “Cap coch rhwyllog” yn ôl y Bywiadur – ond doedd y madarch a welais i ddim yn debyg i’r llun, rhaid dweud.

 

Yn bendant mae madarch yn boblogaidd ar y funud.  Mae llyfr Merlin Sheldrake, Entangled Life” wedi cael cymaint o ganmoliaeth ac mae o ar y silff yn aros i fi ddechrau ei ddarllen tra mae rhaglen lle mae Sheldrake yn siarad am ffyngau ar gael ar yr Iplayer (Fungi: the web of life).

 

Es am dro ar ôl cinio, y prynhawn yma, ac roeddwn mor falch o weld madarch bach yn bodoli ar bont dros yr afon:

  


Wednesday, 27 November 2024

27 Tachwedd: Enwau Cymraeg



Yn fy mlog diweddar, sgwennais am y tiwlips oren yn tyfu gyda’r planhigion “honesty” (lunaria) a doeddwn ddim yn ymwybodol o’r enw Cymraeg.  Ers hynny, dwi wedi darganfod (diolch Gwen) bod yna sawl enw i’r planhigyn yma fel, e.e., arian parod, arian cybydd, ceiniogau dyn tlawd a blodau sbectol.  Y rheswm am yr enwau yma i gyd, dwi’n meddwl, ydy bod yr hadau dipyn bach fel arian.

 

 

Ond yr enw gorau, yn fy marn i, ydy “sbectol nain”.  Fel arfer, mae yna lawer mwy o enwau i gael ar gyfer adar neu anifeiliaid yn Gymraeg nag sy’n bodoli yn Saesneg.  Ond gyda sbectol nain, mae ’na lawer o enwau Saesneg hefyd, yn ôl yr RHS, ond fy mod heb ddod ar eu traws nhw.   ac yn cynnwys pethau tebyg, e.e. “Chinese money”, “grandpa’s specs”  a “money flower”

 

Mae gwreiddiau geiriau yn ddiddorol ond dydyn?  Mi es i i bori drwy Lyfr Natur Iolo, rhag ofn bod “sbectol nain” yno, ond doedd o ddim.  Ond wrth sbecian mi ddois ar draws enw am borage, (borago officionalis). “Tafod y bwch”.  

 

Beth bynnag, i fynd yn ôl at y tiwlips, dwi wedi llwyddo i blannu pob un erbyn hyn.  Roedd rhaid peidio dros y penwythnos, gyda’r glaw trwm a’r gwyntoedd cryf, ond heddiw, yr oedd yn ddigon sych, y prynhawn yma, i roi tri gwahanol fath, sef tiwlip mariola, (piws hyfryd)  “tulipa lemon beauty”;  (gwyn gyda thipyn o felyn) a “Black hero”, piws tywyll.  Gobeithio bydd y cyfuniad yma yn edrych yn dda! 

Friday, 22 November 2024

Y Ddinas




Dyma gerflun gyda haul y prynhawn hwyr arno fo, yn y ddinas ddoe.  Es i gyfarfod â ffrind a mynd i weld Paddington 3  - ia, oedolion, dim plant o gwbl!  Ac mi oedd yn dda.  Ond cyn hynny crwydrais o gwmpas y parc am dipyn oherwydd roedd dipyn o amser yn sbâr, ac roedd y golau yn wych.  Dyma'r pyramid golau, sydd ar y pwynt uchaf ym mharc y ddinas, gyda golygfeydd allan y tu hwnt i Milton Keynes.


 

Es i ar y bws felly roedd yn bwysig cael rhywbeth i'w wneud ar y daith. Dechreuais ar yr ymarferion yn y llyfr hwn a ddaeth yn y post gwpl o ddyddiau yn ôl. 


Nid yw'n syndod bod yr ymarferion cyntaf yn weddol syml ac roedd fy ymdrechion yn eithaf da, ond ddim yn berffaith! Y syniad ydy trio llenwi'r bylchau yn fy ngwybodaeth gramadeg - neu efallai hefyd, i wella fy nefnydd o ramadeg Cymraeg; oherwydd, ar adegau, rwy'n berffaith ymwybodol o'r rheol ond yn anghofio ei chymhwyso ac ar adegau eraill, dwi’n anghofio’r rheol ac weithiau dwi’n ymwybodol o’r ffordd gywir.  Gobeithiaf fy mod yn gwella fesul tipyn, beth bynnag.

Monday, 18 November 2024

Cynllunio ar gyfer y Gwanwyn

 Ro’n i wrth fy modd gyda’r tiwlips yn yr ardd eleni, er mai hap a damwain oedd ambell gyfuniad, e.e.. y tiwlips piws gyda’r “honesty” piws.  




Tybed be ydy’r enw Gymraeg am “honesty”?  Wnaf chwilio nes ymlaen.  Beth bynnag, unwaith mae’r planhigyn yn yr ardd mae’r hadau yn dod i fyny ble mynnon nhw - ac weithiau maen nhw yn y lle perffaith!  Ond eleni, dwi ddim yn gweld llawer o’r planhigion yma, felly dwi ddim yn meddwl bydd y cyfuniadau mor dda.  Tiwlip arall sydd yn mynd yn dda gyda’r lliw piws (yn fy marn i) ydy’r tiwlip oren “Ballerina”.  A dyma lun o’r tiwlip yma gyda’r “honesty” piws eto.  Dipyn fel marmite, efallai, ond dwi yn hoffi'r cyfuniad.


Dwi ddim yn cofio enw’r un piws, ond wnes i archeb sawl tiwlip piws eleni.  Ond dwi’n anghofus.  Rhois fy archeb i mewn, fel arfer i’r cwmni Peter Nyssen.  Maen nhw’n dda, ac yn bwysig, dim yn gwerthu tiwlips sydd wedi cael wedi cael triniaeth gyda phryfleiddiaid fel “neonicotinoids”.  (Ydy, mae o’n llond geg, ond yn air pwysig oherwydd mae o’n gwneud niwed mawr i wenyn).  Ond, doedd dim o’r tiwlips “Ballerina” ar ôl; felly archebais y rheina o gwmni arall - ag anghofio’n llwyr fy mod i wedi gwneud hynny, nes dod ar eu traws yn y garej ddoe

Felly heddiw, rhois ychydig o diwlips mewn potiau, ac ychydig mwy mewn darn o bridd yng nghanol yr ardd lle dwi’n tyfu blodau blynyddol, ac mae ’na ddarn bach arall wrth fynd allan trwy’r giât cefn, fel eu bod yn cael eu gweld wrth fynd allan a dod i mewn.  Mae 'na ychydig ar ôl i’w blannu ond dwi bron wedi gorffen gyda’r tiwlips rŵan, felly'r gorchwyl nesaf fydd gorffen rhoi’r ffa i mewn, ac adnewyddu’r potiau wrth y drws ffrynt.


Sunday, 17 November 2024

Llyfrau (17 Hydref 2024)

Ers i fy ffrind awgrymu darllen “Winter in Madrid” gan C.J. Samsom, (sydd yn wych gyda llaw) mi es ymlaen i ddarllen sawl lyfr arall gan yr un awdur yn enwedig y llyfrau gyda’r cymeriad Shardlake.  Yn anffodus dwi ddim wedi ei darllen mewn unrhyw drefn er eu bod nhw yn gyfres.  Yn aml, dwi’n prynu llyfrau o siopau elusen a dyna sut brynais y  “Revelation”. gan yr awdur yma.  Y bedwaredd yn y gyfres, dwi’n meddwl.  Fel arfer, roedd y nofel yn wych, ac na, does dim rhaid darllen y llyfrau yma yn y drefn gywir - ond falle ei fod yn well i wneud hynny.  Felly dwi’n meddwl am fynd yn ôl a dechrau gyda’r gyntaf, “Dissolution”: un dwi heb ddarllen. 

Ond yn y cyfamser dwi isio ailddechrau ar lyfrau Cymraeg.  Dechreuais ar “Gwibdaith Elliw” gan Ian Richards ond rywsut wnaeth y llyfr ddim cydio llawer, ond dwi am drio eto.  Efallai nad ydy hon y nofel i fi.  Fel arfer, dwi’n hoffi nofelau eithaf traddodiadol gyda stori gref - a dydy hon ddim yn draddodiadol o gwbl.  Fel mae hi’n dweud ar y clawr cefn: “Mae hi (y nofel) fel pos sy’n herio’r darllenydd...“  Llyfr arall sydd ar y silff, ond heb gael ei orffen ydy’r Fro Dywyll gan Jerry Hunter.  Dwi’n gyndyn i roi’r ffidil yn y to, ond dwi heb gael llawer o lwyddiant yn darllen hwn chwaith.  Felly, gan ei fod yn amser o’r flwyddyn lle mae hi yn nosi yn gynnar, dwi’n meddwl am roi un cynnig arall arni hi - a chawn weld!

Saturday, 16 November 2024

Diwrnod o Gymraeg

 Diwrnod o Gymraeg


Dwi’n sgwennu hon ar y tren allan o Lundain ar ol mynychu ysgol undydd yng Nghanolfan Cymry Llundain.  Fel bron bob tro, dwi wedi cael diwrnod ardderchog, a dwi wedi bod yn meddwl am y rhesymau.  Be ydy’r elfenau sydd yn dod â phleser?

Wel yn gyntaf dwi ddim yn cael llawer o gyfleoedd i siarad Cymraeg am oriau heb fynd i Gymru, ac mae Llundain yn nes o lawer; ac yn sicr dwi’n cael mwynhad wrth gyfathrebu yn y Gymraeg.

2.  Mae ’na rywbeth arbennig am fod mewn ynys fach Cymraeg ym mhrif ddinas Lloegr.

3.  Mae’r bobl ar y cyrsiau gwastad yn ddiddorol.  Heddiw, roedd pawb ar y cwrs yn ddigon rhugl ac mae hynny’n helpu; h.y. doedd na ddim ormod o amrywiaeth ynglŷn â safon y Gymraeg.  Wnes i ddim dod i adnabod pawb yn ein dosbarth heddiw - roedd 11 yn ormod; ac ond un roeddwn yn adnabod yn barod.

O’r lleill, roedd un wedi ymddeol o fod yn athro.  Wnaf ei alw yn William.  Dyn clên a diddorol, ond yn troi i’r Saesneg rhy aml, ac i fi, mae hynny’n broblem.  Dynes, wedyn, yn wreiddiol o Wrexham sydd yn byw yn Surrey rŵan.  Ches i ddim amser i gael ei holl stori, ond, ysgol Cymraeg yn Wrexham, yn siarad dipyn o Gymraeg am amser fel plentyn a rŵan fel finnau yn byw yn Lloegr.  Dach chi’n darganfod pethau bach sydd gennych chi yn gyffredin mewn dim o amser, e.e. hoffter o gŵn defaid a dim hoffter o ffasiwn na gwisgo colur.  

Dynas, wedyn, a oedd yn gweithio ar M.A.. ym Mangor (y brifysgol: ac ar-lein dwi’n dyfalu) am y Celtiaid.  (Meddyliais i am wneud M.A.. tebyg gyda Bangor ond mi fase hynny’n cymryd gymaint o amser ac yn wir dwi ddim isio lleihau fy ngarddio, gwneud pethau ynglŷn â bywyd gwyllt, cerdded a.y.b..  Ar ôl gyrfa lle roeddwn yn treulio gymaint o amser yn eistedd wrth ddesg, dwi wir yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd i fynd allan i gerdded neu fynd ar y beic.) 

Felly dwi wedi cael diwrnod da ac mae o wastad yn anodd ailymuno a’r byd Saesneg.  Ond byddaf ynn cael cyfle am awro o sgwrsio â Gareth bore fory dwi’n gobeithio, a falle dal i fyny â Galwad Cynnar ar y radio rywbryd yn ystod y diwrnod.

Sunday, 3 November 2024

Yn ôl yn yr ardd, Tachwedd 3 2024

Ers i fi syrthio, ryw 6 wythnos yn ôl, dwi ddim wedi medru garddio, oherwydd brifais fy asennau ...ond erbyn rŵan maen nhw bron wedi mendio, a’r ardd yn galw allan am dipyn o ofal: felly, amdani!

Y peth roeddwn i isio gwneud oedd rhoi’r ffa llydan yn y pridd - wel, rhai ohonyn nhw beth bynnag.  Mae o’n bosibl dechrau tyfu’r ffa yma yn yr Hydref.  Maen nhw yn egino a dechrau tyfu ac wedyn yn sefyll dros y Gaeaf: hyd yn oed (fel arfer) os ydy’r tywydd yn garw.  Felly, mae’r cnwd yn dod yn gynharach ac mae llai o bethau i’w wneud yn y Gwanwyn, sydd yn amser prysur. 



Er ei bod hi’n hwyr yn y flwyddyn, mae 'na ddigon o liw o gwmpas yn yr ardd.  Dwi’n hoff iawn o’r cotoneaster yma, gyda’r aeron coch, coch, ac yn gobeithio bydd hon yn goeden lle bydd y fwyalchen yn dod i wledda - ac efallai bydd adar gaeafol fel y coch-dan-adain yn dod hefyd.  Dwi erioed wedi eu gweld nhw yn yr ardd.  Ond pwy a ŵyr?  Os bydd y tywydd yn garw, ac aeron yn brin ....O ran liw, 


mae’r cosmos yn blodeuo o hyd, a’r 
tithania - “mexican sunflower” .

Mae’r letys yn dal i wneud yn dda yn y tŷ gwydr a hyd yn oed rhai tomatos ar ôl hefyd.  Mond gobeithio cawn i un neu ddau ddiwrnod heulog -  i mi gael gorffen plannu’r ffa, a phlannu’r tiwlips i gyd.