Ailddysgu

Sunday, 29 June 2025

Gwair a thrychfilod

Mae hi’n dipyn o amser ers Mai di-dor, ond serch hynny, dwi heb dorri’r gwair; yn rhannol oherwydd y tywydd sych sydd hefyd wedi bod yn boeth iawn weithiau.  Felly yn yr ardd o flaen y tŷ, lle mae gynnon ni ddwy lawnt fach, mae un wedi cael ei thorri, ac un heb.  Mae un rhan o’r ardd yn eithaf gwyllt.  Yn y cefn, ar ddechrau mis Mai, gadewais ran o’r lawnt heb ei dorri.  




Ond pan ddaeth diwedd y Mis, penderfynais adael y gwair fel yr oedd o, yn rhannol oherwydd y sychder, ac yn rhannol i gadw blodau ar gyfer trychfilod.


Yn ôl y sefydliad sydd yn gwarchod ieir bach yr haf, mae gwair hir yn bwysig iddyn nhw, neu loÿnnod byw (dwi ddim am ddefnyddio’r gair pili-pala), ac yn dweud bod ei ymchwil yn dangos mor bwysig ydy cael gwair hir i’r gloÿnnod byw.  

Maen nhw eisiau i ni addo peidio torri’r gwair rhwng mis Ebrill a mis Medi os bosib! Erbyn rŵan mae’r ardd gefn wedi troi o fod yn rhywbeth anffurfiol, naturiol a hardd, i fod yn eithaf blêr, ond mae digonedd o flodau yna, a does dim llawer o bwynt torri’r gwair a hithau mor sych a phoeth. 



Yn bendant dwi’n gweld llawer o drychfilod yn yr ardd gefn a’r ffrynt - ond dim cymaint o loÿnnod byw ac y baswn yn hoffi eu gweld.


Ac ar y comin mae’r gwair wedi cael ei dorri hefyd.  Fel arfer dydy hyn ddim yn digwydd tan fis Gorffennaf.  Felly dwi’n gobeithio bod yr ehedyddion wedi gorffen nythu!  Yn bendant yr oedd yn eithaf tawel ar y comin y bore ‘ma ond dyma un o’r ehedyddion.




Monday, 23 June 2025

Fy mherllan anghyfreithlon...eto

 Ydych chi’n cofio fy mherllan anghyfreithlon?  Rhyw fath o arddio gorila.  Sawl blwyddyn yn ôl, efallai 20 mlynedd yn ôl, pan redais allan o le yn fy ngardd i dyfu coed ffrwythau, defnyddiais y tir y tu allan i fy ngardd; tir y cyngor.  Yna rhoddais goeden afalau coginio (a gafodd ei thorri gan beiriant gwair y cyngor...); coeden cnau; hen fath o goeden afalau (a oedd yn bodoli yn ôl y sôn yn amser y Rhufeiniaid; dwy goeden eirin a choeden gellyg.  Ond dwi wedi ychwanegu coeden eirin gwlanog (dydy hon ddim yn gwneud yn dda, yn anffodus) ffigysen a morwydden.

Neithiwr roeddwn i allan yno yn gweld sut yr oedden nhw’n gwneud ar ôl cymaint o sychder a gwres.  Mae digon o gysgod yna erbyn y prynhawn hwyr a dwi ddim yn cael cyfle i dynnu’r chwyn o gwmpas chwaith, (er mae hi’n well tynnu’r chwyn o gwmpas bôn coeden) felly mae ’na ryw naws gwyllt i’r llecyn.  Ac maen nhw’n gwneud yn dda eleni ar y cyfan.  Unwaith mae gwreiddiau coeden wedi treiddio yn ddwfn i’r tir, mae’r goeden yn medru darganfod dŵr.  


Wrth gwrs, mae hi’n beth dda i ddyfrio o bryd i’w gilydd os ydy hi’n wirioneddol sych, ond gan ei bod i wedi bod mor sych - a phoeth - dwi wedi bod yn ddigon prysur yn cadw’r ardd ei hun yn mynd, felly roeddwn yn falch o weld bod y ffrwythau eleni yn edrych yn fendigedig, ar wahân i’r ffigysen.  Mae hon yn iach ond does dim llawer o ffigys arni hi.  Fel un o’r coed afalau yn yr ardd, mae hi’n ffrwytho'n dda bob yn ail flwyddyn - a llynedd yr oedd hi’n doreithiog.


Tair blynedd yn ôl, rhois goeden gellyg arall i mewn.  A mae hi'n ffynnu.

Friday, 20 June 2025

Yn yr ardd Mehefin 19

O’r diwedd dwi’n ôl gyda phost i’r blog.  Ar ôl ymweliad i’r Alban (“Aigas field centre”- ac efallai bydd mwy am hynny nes ymlaen), dwi’n ôl yn dal i fyny gyda’r ardd a’r teulu ac yn dod i arfer gyda’r tywydd poeth.  Gan fod ein gardd ni yn sych fel arfer, does dim rhaid meddwl gormod i ddychmygu sut mae pethau ar y funud.  Ond yr unig ateb ydy defnyddio llwyth o gompost, sydd yn helpu’r pridd i beidio sychu gormod, a thyfu planhigion sydd yn medru ymdopi.  Dyma sut yr oedd yr ardd pan gyrhaeddais yn ôl o fy ngwyliau.




 Fel y gwelwch mae’r bysedd y cŵn yn ffynnu.  Planhigyn sydd yn ymdopi gyda llefydd gwlyb a llefydd sych: yn hoff o’r Alban ac o Gymru ond hefyd yn hapus pan mae hi’n sych.  Yn yr ail lun
 mae’r “geraniums” a’r rhosyn “rambling rector” sydd yn wych pan mae hi’n blodeuo, ond erbyn hyn, mae’r blodau bron wedi mynd ac yn gadael blerwch.
  Felly, ar wahân i ddyfrio, y jobsys ar y funud ydy cynhaeafu a thynnu ambell i ddarn o chwyn.  



Dyma'r cynhaeaf o ffa llydan a gawson ni ar gyfer cinio dydd Sul diwethaf - ac ar wahân i’r rhain, mae ffa yn y rhewgell a basged arall wedi ei pharatoi am ginio a’r rhewgell.  Tymor ardderchog i’r ffa llydan, nad ydynt wedi gorffen eto..

 



Tymor ardderchog, hefyd, i’r mafon a’r mefus.  Dydy mefus ddim yn rhewi’n dda o gwbl. Felly rhaid bwyta nhw!  Sydd ddim rhy anodd.  A dyma bowlen o fafon a aeth i’r rhewgell - lle mae sawl bocs o fefus ar gyfer y dyfodol.  Mmmmm.