Aur yr ardd
Efallai eich bod yn meddwl bod mis Tachwedd yn dawel yn yr ardd: y rhan fwyaf o’r blodau wedi gorffen, a’r llysiau hefyd, ond na, mae’r amser yma yn amser da i roi planhigion i mewn, oherwydd bod y pridd yn dal yn gynnes. Hefyd, mae aur allan yna yn rhad ac am ddim. Dwi’n sôn am ddail - sydd yn cael eu troi i ddeilbridd - os dyna ydy’r gair cywir Cymraeg. (Dim byd yng ngeiriadur yr academi). Yn amlwg dwi wedi bod yn gwneud deilbridd am flynyddoedd. Dyma fag yn dod adre ar y beic.
A dyma rhai o’r dail sydd wedi cael eu casglu.
Rhaid cadw nhw dipyn yn wlyb, ond dim yn socian, ac yn dibynnu ar yr amgylchiadau, cymerith ryw dwy flynedd iddyn nhw droi i rywbeth sydd yn edrych fel compost.
Fel y dywedais, gall gymryd tua dwy flynedd i ddeilbridd aeddfedu, yn dibynnu ar yr amgylchiadau: y math o ddail, lleithder a thymheredd, ac ati.
Ac ydi, mae compost dail neu ddeilbridd yn beth werthfawr iawn yn yr ardd - i’w ddefnyddio fel neu mewn compost, neu i orchuddio pridd yn y gaeaf. Yn ddiweddar dwi wedi gweld fideos youtube yn honni ei fod yn llawer gwell na chompost arferol. Dyma beth sydd gan yr RHS (Royal Horticultural Society) i’w ddweud.
Felly dwi wedi treulio dipyn o amser yn casglu dail o’r lôn wrth ymyl y tŷ, cyn i’r dynion sbwriel mynd a’r holl drysor i ffwrdd.


