Yn ôl ym mis Ebrill collason ein ci, Tyson. Mi roedd o wedi bod yn ffrind da i’r teulu i gyd, ers iddo symyd yma i fyw yn ol yn 2001, pan roedd o ryw ddeunaw fis. Mi wnes i feddwl am sgwennu post amdano fo, ond do’n i ddim yn medru, ar y pryd. Yn teimlo rhy drist ac emosiynol.

Wrth gwrs, doedd o ddim yn angel: yn enwedig gan mai ci hela roedd o; ond ar ol dipyn o hyfforddiant, roedd yn gyfaill ardderchog ar daith cerdded. Un peth oedd o’n gwneud oedd sicrhau bod fy ngŵr yn cerdded digon: roedd Tyse (na, dim ni enwodd o) angen ryw ddwy awr o gerdded bob dydd. Hyd yn oed pan roedd yn hen (rhy hen i hela’r wiwerod yn y fynwent) roedd o’n hapus iawn i gerdded am amser hir, ac yn fwy gyfforddus oherwydd bod y cryd cymalau ddim mor ddrwg pan roedd yn cerdded.
Ar ôl dipyn, roedd o’n amlwg bod angen ci arall i fynd a fy ngwr am dro, iddo gael dipyn o ymarfer corff. Felly aethon i chwilio am gi newydd, a penderfynu cynnig cartref newydd i gi roedd angen cartref, yn nytrach na prynu ci bach. A dyma sut ddaeth Teo i fyw gyda ni. R’oedd o am gael ei ladd yn Sbaen. Dan ni ddim yn gwybod am ei gefndir: mae’n amlwg ei fod wedi byw mewn tŷ, rwy bryd, ond dim wedi cael hyfforddiant o gwbl o be dan ni’n gweld. Mae lawer o gi defaid ynddo fo, a falle dipyn o ddaeargi - pwy a wyr. Bydd o angen llawer o hyfforddiant, ond mae o’n glyfar ac yn dysgu’n gyflym.
A dyma'r ci newydd: Teo ydy ei enw fo (a mi ddaeth gyda'r enw).
Mae’r braf iawn cael ci o gwmpas y lle eto. Efalla bod yr wythnos cyn Dolig ddim yr amser gorau - ond roedd y pobol oedd yn edrych ar ei ôl o, yn awyddus i gael gartref newydd iddo fo - a gwneud le i gi arall oedd angen cartref dros dro.
Ond dwi wedi cael ryw fath o annwyd drwm gyda haint a peswch drwg dros y Nadolig, a dim wedi bod mewn stâd i wneud lawer o gwbl. Felly ond dros ddoe a heddiw dwi wedi bod allan efo fo. Gobeithio cai cyfle i bostio mwy, unwaith dwi'n teimlo'n well...