[Dwi wedi trio gyda'r post yma tair gwaith nawr, a bob tro mae o\n edrych yn od iawn, dim ots pa "front". Felly dyma'r tro diweähaf a ffwrdd a hi]
Mae’r
tymor yn newid, a’r tymheredd wedi gostwng - ac am fod yn oerach byth. Prynhawn
yma, glaw trwm, a gwyntoedd cryf. Ddoe,
yn y prynhawn, mi es i Otmoor, gwarchodfa natur RSPB gyda fy ffrind Jan.
Dwi ond wedi bod unwaith o’r blaen, ond mae’r llecyn yma yn arbennig
iawn. Er ei fod yn yml Rhydychen, rhos isel neu cors ydy hi: gwlypdir
gyda’r fath o adar fasech chi’n disgwyl mewn cynefin fel hyn. Unwaith
roedd y wlypdir yn enfawr, ond fel sydd yn digwydd, cael ei droi i dir ar gyfer
ffermio oedd hanes y ran fwyaf. Ar wahan i Otmoor. A mae’r RSPB
wedi bod yn datblygu’r warchodfa ar gyfer rhywiogaethau arbennig, fel aderyn y
bŵn, bod y gwerni ac yn y gaeaf, bod tinwen. Ddoe, ’roedd bod y gwerni i’w
gweld, a hefyd bod tinwen - mae nhw yn dod i lawr o’r tir isel yn y gaeaf.
Falle mae un o’r Alban oedd hon. Doedden nhw ddim yn agos, yn
bendant dim digon agos i gael llun.

Felly dyma llun o ddau a welais haf llynedd
yn Otmoor (dydy rhain ddim yn dda iawn chwaith.....].
Ond y
sioe ddoe oedd y ddrudwy. Erbyn pedwar o’r gloch roeddent yn dechrau
hedfan i’r gors, yn ei filoedd. Ond doeddent ddim i gyd yn dod ar
unwaith, ond fel cymylau, un ar ol y llall, a weithiau gyda hoe bach, neu fawr,
rhwng y cymylau. Dyma be mae’r blog RSPB yn dweud am Otmoor