Mae’r Gŵyl Arall yng Nghaernarfon
mor bwysig yn fy mywyd Cymraeg a Chymreig. Cyfle i wneud pethau diddorl a
dysgu pethau gwahanol i gyd drwy gyfrol y Gymraeg. [Peth prin yn fy mywyd yn MK!]
Eleni, roedd gormod yn digwydd i fi
eu gofnodi i gyd yma. Felly, ynglyn a’r post yma, beth bynnag, dwi'n son am
daith gerdded hanesyddol gyda Rhys Mwyn, arecheolegydd lleol. Dwi wedi
bod ar sawl daith gyda Rhys, a ddoe cael cipolwg ar archeleg diwydiannol
Caernarfon oedd dan sylw. Felly, be ddysgais?
- Bod pobl Caernarfon yn barod i fynd
am daith cerdded mewn tywydd eitha gwlyb!

- Bod y cei llechi - lle fues i’n
chwarae pan yn blentyn - ddim yn bodoli cyn y ddeunawfed ganrif
- Bod llawer o’r adeiladau sydd ar hyd
y cei wedi cael eu ddefnyddio gan cwmni
peirianneg De Winters, a sefydlodd ffowndri yn y lleoliad yn creu beth bynnag
oedd angen ar gyfer y ddiwydiant llechi. [Yn ôl wikipedia, Owen Thomas a
oedd wedi adeiladu’r ffowndri].
- De
Winters oedd yn gyfrifol am adeiladu rheilffordd Nantlle I gario’r llechi
mewn wagenni o’r chwareli yn Nyffryn Nantlle I Gaernarfon. Roedd y wagenni yn cael eu tynnu gan
geffylau. Agorodd Rheilffordd Nantlle yn
1828.
Heddiw,
mae’n bosib o hyd gweld olion y cledrau o’r reilffordd – fel yn y lluniau nesaf.
[Mae'r ail llun yn dangos lle maent yn gweithio ar yr 'ynys': llawer o gynlluniau ar gyfer y cei llechi. ]. Ond fel llawer o bethau diddorol, yn aml
dan ni ddim yn sylwi beth sydd o’n
gwmpas ni.