Ailddysgu

Wednesday 26 June 2024

Y cloddio: y canlyniadau

Wel mae’r cloddio wedi dod i ben ar y comin a chawsom cyfle i ddargangu’r canlyniadau dydd Sadwrn yn ystod y diwrnod agored.   Yn fyr, roedd Rhufeiniaid yn byw ar y comin - ond efallai dros dro oedd y trefniad.  Beth bynnag, darganfyddwyd grocenwaith Rufeinig nad oedd wedi cael ei wneud yn y wlad hon - felly wedi cael ei brynu.  Mae rhai o’r darnau mewn bocs coch yn y llun.


 

Roedd un ddarn o grocenwaith efalle o’r oes haearn - ond doedden nhw ddim yn siwr.  Ac yn bellach i lawr y comin, wrth ymyl y llwybr, darnau o bethau o’r rhyfel cartref.  Doedd hynny ddim yn syndod oherwydd roedd garsiwn ar y comin ar y pryd.

 

Beth bynnag dwi’n siwr bydd mwy o wybodaeth ar gael cyn bo hir.

Thursday 20 June 2024

Hen hen hanes y comin





Mae’r haf wedi cyrraedd o’r diwedd, a’r haul yn tywynnu.  Ac ar ein comin, mae dipyn o gyffro oherwydd mae ’na gloddfa archeolegol yn digwydd.  Dwi (a’r ci) wedi bod yn cerdded hebio un o’r safleoedd lle mae’r cloddio ond dan ni ddim yn gwybod eto be sydd wedi cael ei ddarganfod, er clywais bod darn arian Rhyfeinig ymysg y darganfyddiadau, a hefyd pethau o’r oes Haearn.

 

Mae’r comin yn dyddio’n ol cryn dipyn ac yn cael ei ddefnyddio fel comin yn 1276 a fel cae canoloesol gyda “ridge and furrow”.  Ond wrth gwrs does dim tystiolaeth am be oedd yn digwydd yna yn yr oes haearn.

 

Felly bydd yn gyffrous i cael wybod digon mwy - a bydd y gwybodaeth yna yn cael ei rannu dydd Sadwrn a dydd Sul.  Mae dydd Sadwrn a Sul yn brysur yn gobeithiaf ein bod yn medru mynd i o leia rhan o un o'r dyddiau agored.

Monday 10 June 2024

Yn ol o'r Alban

 Gan fy mod am gyrraedd oed arbenning eleni - ia, rhif gydag 0, penderfynnais mynd am wyliau arbennig, i weld bywyd gwyllt yn y Cairngorms.  Ro’n wedi gweld hysbysebion am gwesty’r Grant Arms sydd yn arbenigo mewn gwyliau bywyd gwyllt.  Mae clwb adar a bywyd gwyllt yn gweithio allan o’r gwesty a sawl un sydd yn tywys tripiau bywyd gwyllt.  Roedd fy ffrind Jenny sydd yn byw rwan yn Vancouver yng Nghanada ac yn monitoro adar yn fodlon dod hefyd, a felly dyna be wnaethon ni.

 

Trefnais cael tywyswr lleol am ddau ddiwrnod i helpu ni ddarganfod beth oedd o gwmpas.  Dwi erioed wedi bod yn y Cairngorms o’r blaen, ac yn gobeithio gweld, efallai, a gylfingroes (crossbill) a falle sgwarnog mynydd, eryrod, gwalch pysgod, dyfrgwn a falle bele coed.  Optimistaidd!

 

Hen westy ydy’r Grant Arms - llawer mwy nac o’n wedi dychmygu, a mae o reit yn y dre, a sefydlwyd fel dre newydd yn 1765.  Mewn 10 munud fedrwch chi gerdded i’r goedwig mawr wrth yml y dref ac i’r afon Spey.  Aeth John ein tywyswr a ni i drio gweld eryrod ar ein dydd gyntaf, ond na, gwelson mohonon nhw.  Ond, gwelson ceiliogod grugiar ddu (er ei fod yn 11 yn y bore), sgwarnogod, y gylfinir a hefyd y gornchwiglen – a roedden yn ffodus hefyd i weld gwyach gorniog sydd yn nythwr prin ar lynnoedd yn ngogledd yr Alban.  Wnaeth o ddim aros i fi dynnu ei lun yn anffodus, ond dyma’r gornchwiglen.




 

A mae’r coedwigoedd mor mor wych!  Ond mwy am hynny tro arall.