Ailddysgu

Friday, 31 October 2025

Llyfrau Ffantasi


Ydych chi’n hoff o lyfrau ffantasi?  Maen nhw dipyn fel "marmite" dwi’n meddwl.  Ond os dach chi’n hoffi dianc i fyd arall; pan fydd pethau yn ddu yn eich bywyd go iawn...i fi does 'na ddim llawer gwell.  Ac os ydych yn hoff o ffantasi...pa rai sydd yn dda?


Wel, dwi newydd droi yn ôl at glasur: “Lord of the Rings”.  Darllenais hwn gyntaf pan oeddwn yn fy arddegau a dwi’n cofio rhuthro yn ôl o’r ysgol a gorwedd ar y gwely yn methu aros i wybod be oedd am ddigwydd nesaf.  Ond yn fy marn i, er mor hoffus ydy’r hobydion mae ’na ddarnau diflas a rhy hir.  Yr holl ryfeloedd di-ri,  er enghraifft.  Dwi ond wedi cyrraedd lle mae’r hobydion wedi cyfarfod Tom Bombadil ar y funud.

 

A be arall dwi wedi ei fwynhau?  Heb os ac oni bai, llyfrau Philip Pullman.  Ac mae un newydd ar gael yn y gyfres ddiweddaraf, The Book of Dust: efallai'r un olaf.  Mae’r ddwy gyfres yma yn fwy na phethau difyrrus.  Mae negeseuon eithaf difrifol yn y ddau am sut dylen ni drin pobl eraill ac ymddwyn; pwysigrwydd cyfeillgarwch...ac yn y blaen.  Wrth gwrs, yn aml, mae llyfrau ffantasi neu hud a lledrith yn cael eu sgwennu ar gyfer plant.  Un gyfres a fwynheais i gyda’n plant ni, pan oeddent yn ifanc, oedd “the Magician’s House quartet"), er. wrth edrych rŵan, gwelaf fod yr adolygiad yma ddim mor dda. https://fantasyliterature.com/reviews/the-steps-up-the-chimney/ 

Dwi ddim yn siwr  fy mod yn cytuno a hefyd, roedd neges gref am gyd-fyw gyda natur a'i pharchu.  Ac roedd hynny’n bwysig i fi.

 

Dwi ddim wedi darllen llyfrau Philip Pullman am sbel ond dwi’n edrych ymlaen at ddarllen y llyfr olaf o’r “Book of Dest”.  Yn ddiweddar, wnes i ail-ddarllen cyfres David Eddings: The Belgariad a mwynhau’r llyfrau yn arw.  Awdur Americanaidd oedd David Eddings, wedi sgwennu llawer o lyfrau ffantasi.  Ond y gyfres hon dwi wedi darllen.  Mae’r un elfennau yno ag sydd yn Lord of the Rings: mae pobl yn mynd ar gwest; yn teithio am yn hir ac yn cael ambell antur ar y ffordd.  Mi faswn i’n dweud bod yna fwy o hiwmor yn llyfrau David Eddings – ac mae’r sgwennu’n dda.

 

A byddaf yn sgwennu am lyfrau ffantasi Cymraeg, hefyd.

Monday, 27 October 2025

Mwy o gynganeddu ac arddio

O’r diwedd dwi am gyfrannu i’r blog.  Rhywsut mae pethau wedi bod yn brysur - fel dwedais, dwi wedi dechrau ar gwrs cynganeddu (a oedd hynny’n syniad da, tybed?) ac wedi bod i ffwrdd yn cael hoe fach.



Ar y funud, beth sydd yn fy nharo i, ydy bod y clocs wedi newid, a bore ’ma, lle ’roedd hi yn ugain munud wedi 7 ddoe, heddiw mae hi ond yn ugain munud wedi chwech,  Mae hyn yn beth da am y bore.  Dwi wedi ei chael hi’n anodd codi yn ddiweddar oherwydd ei bod mor dywyll. Rŵan bydd hi’n olau erbyn 7, ond yn tywyllu  yn gynt gyda’r nos.  Felly dan ni’n paratoi am y Gwanwyn.  Prynhawn ddoe, rhois fylbiau cennin Pedr i mewn i’r ardd - ac mae 'na fwy i fynd i mewn.  Ond hefyd, mae’r cynhaeaf yn parhau.  Dyma bupurau o’r tŷ gwydr.  Maen nhw wedi dod yn hwyr, ond yn cochi rŵan ac yn flasus.

 

Hmmm... y cwrs cynganeddu.  Mwynheais y dosbarth cyntaf - ond wedyn roeddwn i ffwrdd am yr ail ddosbarth, a rhywsut yr oedd hi’n teimlo fel bod popeth wedi carlamu ymlaen pan ymunais â’r trydydd dosbarth.  Dwi’n dal i ddal i fyny (mae 'na bron (ond dim cweit!) cynghanedd yn fanna!).  Dydy’r peth ddim yn hawdd, yn sicr.  Ers gwers 3 dan ni wedi cael gwaith cartref.  Hmm.  Trïais fy ngorau gyda’r gwaith cartref cyntaf - a threuliais gryn dipyn o amser arni, ond gyda chanlyniadau cymysg.  Roedd y canlyniadau o’r gwaith cartref o wers 4 yn well - ond yn dangos fy mod heb ddallt y rheolau a’r mathau o gynghanedd yn iawn eto.  Dwi’n medru bod yn ystyfnig, felly dwi’n dal ati.   

 

Mi ddois i ar draws gwersi ar YouTube gan Aniurin Karadog: felly dwi wedi bod yn gwylio’r rheini hefyd.  Ond heb orffen eto.  Mae’r cwrs cynganeddu ond yn para am 9 wythnos: 9 gwers.  Sydd yn hynod o fyr gan ystyried bod prentisiaeth yn cymryd 9 mlynedd yn y canol oesoedd!! (Ond doedd youtube ddim yn bodoli).  Felly ymlaen a ni.  A dyma un enghraifft fach o (jest un lein o) gynghanedd: “Ar daith yw ein hiaith  o hyd”.  Ond mae rhaid ystyried mae ond y ddau air cyntaf (Ar daith) wnes i sgwennu.  Mater o lenwi’r bylchau ydy’r rhan fwyaf o’r ymarferion ar hyn o bryd!

Tuesday, 14 October 2025

Yr Hydref, heriau Cymraeg a garddio...

Wel, mae’r Hydref yn ei anterth rŵan, a dwi’n hoff iawn o’r tymor yma, ond eleni, ar y funud, tywydd llwyd, digalon dan ni’n ei gael; dim y dyddiau heulog, lliwgar fasen ni’n licio!

 

Dechreuais gwrs newydd ar ddiwedd mis Medi, cwrs cynghaneddu.  Ia, mi wn.  A dwi’n gofyn yr un cwestiwn.  Pam ar y ddaear? Ac yn ail, a fydda i yn medru ymdopi?  Un ateb i’r cwestiwn cyntaf ydy fy mod yn hoff o chwarae gyda geiriau, arbrofi gyda synau, a falle bod hyn yn un ffordd o wneud hynny, ond fel roeddwn yn ofni, mae ’na gymaint o reolau.  Dan ni ond wedi cyrraedd diwedd gwers 3 a chael gwaith cartref am y tro cyntaf, ac mae’r gwaith cartref yn anodd, wir yr.  Ond collais yr ail ddosbarth oherwydd yr oedden ni ar drip bach i ffwrdd am ychydig o ddyddiau - a doedd hynny ddim yn helpu o gwbl.  Mi lwyddais i ddilyn y wers, ond wrth drio dechrau ar y gwaith cartref (ryw fath o lenwi’r bylchau - ond eich bod yn gorfod creu llinell gyda chynganeddion) dwi'n ei chael hi yn eithaf anodd.  Mae rhaid cael geirfa ddigon eang am un peth.  Ond cawn i weld.  Gwnaf dipyn bach ar y tro.

 

Dan ni’n cael help gan arddwr o bryd i’w gilydd oherwydd mae’r ardd yn fawr.  Mi ddaeth o heddiw a chreu llecyn yn y bordor lle mae rhosyn am fynd.  Dwi ddim cweit yn siŵr pa rosyn, ar y funud.  Dwi wedi bod yn gwneud ymchwil ac yn ystyried rhai gydag enwau deniadol (ond Saesneg wrth gwrs) fel “Dainty Bess” (pinc) a “kew Gardens”.  Does 'na ddim digon o rosod yn yr ardd, felly dwi’n edrych ymlaen.