Ailddysgu

Tuesday 20 August 2024

Yn yr add

O’r diwedd, mae’r cynhaeafu yn mynd yn dda.  Er bod rhai planhigion ddim wedi gwneud yn dda iawn, mae gennym lawer o rai pethau.  Dan ni’n cael mafon bob dydd ac mae 'na fafon yn y rhewgell hefyd.  



Maen nhw’n fach oherwydd dan ni ddim wedi cael glaw go iawn am sbel rŵan a does dim modd dyfrio popeth digon.  Ac yn yr un gwely a’r mafon (a’r rudbeckia hardd) mae ffa dringo.  


Roedd y malwod a’r gwlithod yn eu bwyta ond mae rhai wedi goroesi, ac yn gwneud yn dda.



Mae’r tywydd wedi bod yn dda am sbel, gyda llawer o haul, ond erbyn hyn mae’r tir yn sych iawn.  Ddoe, treuliais dipyn o amser yn dyfrio’r coed ffrwythau tŷ allan i’r muriau yn y berllan “geurilla”.  Eleni mae gennyn ni gellyg ar un goeden (a gobeithio byddant yn flasus!) ond mae’r goeden ifanc yn edrych yn drist, er ei bod dipyn gwell ar ôl dyfrio a chael haen o gompost. 






Tuesday 13 August 2024

Llyfrau newydd

 



Wel, mae’r Eisteddfod wedi hen fynd (er fy mod wedi bod yn mwynhau’r uchafbwyntiau ar i-player) ond bydd y dylanwad o gwmpas am dipyn.  Ro’n wedi gorffen darllen y llyfrau Gymraeg yn y tŷ (heblaw am Cranogwen: braidd yn sych, ond dwi wedi darllen y rhan fwyaf) ac felly archebais rhai newydd, o Balas Brint, fel arfer.  Daeth y paced dau ddiwrnod yn ôl.  Cyffrous!  Dwi wedi dechrau ar Y Cysgod yn y Cof.  Mae o’n iawn ond dydy o ddim wedi cydio go iawn eto fel fy mod yn methu ei roi i lawr.

A llyfr o'r Siop elusen!  Cyfres hyfryd a dwi'n edrych ymlaen at ei ddarllen. 

Friday 9 August 2024

Eisteddfod Pont y Pridd

Dwi wedi cael wythnos hynod o Gymraeg a Chymreig, yn dilyn yr Eisteddfod.  Yr eisteddfod ddiwethaf, cyn hon, i fi fynychu, oedd Ynys Môn, 2017.  Gwir i ddweud doedd honno ddim yn llwyddiant ysgubol.  Arhosais yng Nghaergybi a doedd y drafnidiaeth ddim yn gweithio yn dda pan oeddwn yna - ac wedyn daeth y glaw mawr.... Ond dwi’n cofio rhai pethau gwych, fel Tudur Owen yn perfformio....



Felly, a finnau gyda phen-blwydd arbennig eleni, mi roedd yn amser i fi fentro eto.  Eleni, wrth gwrs, mae’r Eisteddfod ym Mhont y Pridd.  Gwnes drefniant i aros gyda fy ffrind Gareth yn Sir Morgannwg am ddwy noson ar ddechrau’r Eisteddfod ac roeddwn yn ansicr am y drafnidiaeth, ond aeth bopeth mor dda.

 

Wrth gwrs, mae o’n daith eithaf hir o famau, yn Milton Keynes, i Bontypridd, a rhaid croesi Llundain.  Cyrhaeddais y maes mewn amser i gyfarfod Gareth a fy ffrind Jan o Landeilo a chael tamaid o ginio cyn mynd i weld Talwrn y Beirdd yn y babell Lên.  A phwy a ŵyr ar y pryd bod Carwyn Eckley, o dîm Dros yr Aber, wedi ennill y gadair?  Dwi’n dilyn Talwn y Beirdd o bryd i’w gilydd:  ffordd dda o drosi yn y Gymraeg pan ddach chi’n byw yn Lloegr.

 

Cefais tri diwrnod ardderchog.  





Roedd yr awyrgylch a Pharc Angharad yn wych.  Trueni na chawsom amser i grwydro o gwmpas Pont y Pridd, sydd i’w weld yn lle deniadol.  Wrth gwrs, rhan fawr o’r profiad ydy’r sgyrsiau dach chi’n cael a chefais sgwrs ddiddorol dros ben gyda dynes leol a oedd yn rhedeg caffi a oedd yn trefnu gweithgareddau ym Mhont y Pridd.  Lle i’r gymuned cyfarfod a chael cefnogaeth os angen.

 

Yn anffodus doeddwn ond yn aros tan brynhawn Llun, ac roedd rhaid gadael cyn y Coroni....ond da oedd dilyn yr holl antur ar y teledu wedyn unwaith fy mod yn adnabod y maes.