Mae penwythnos “Gwylio Adar yr Ardd” (GAA) wedi cyrraedd. Fel arfer, dyma’r penwythnos lle mae’r adar yn penderfynu mynd rywle arall. Falle i’r gerddi eraill sydd yn bwydo adar hefyd. Dwi wedi mynd trwy’r cofnodion a dyma be ddigwyddodd llynedd:
“Gwelais dwy fwyalchen (ceiliog ac iâr); dau robin goch, 1 titw tomos las, pioden, jac-y-do a llwyd y gwrych. Tynnais luniau trwy'r ffenestr oherwydd roedd yr adar yn eithaf ofnus, felly dydy'r lluniau ddim yn dda iawn.”
Ac wrth edrych yn ôl gwelais nad ydw i wedi gwneud llawer o gofnodau o’r GAA yn y blog. Dim byd rhwng y llynedd a 2015! A dyma’r sefyllfa ddeng mlynedd yn ol:
“Heddiw, gwelais 2 ddrudwy, 1 robin goch, 2 fwyalchen, 2 titw Tomos las, a 2 lwyd y gwrych. Dim byd arall yn dod i mewn i’r ardd dros yr awr dan sylw.
Ond mi wnes i wneud nodyn o’r adar a welais ben bore wrth mynd â'r ci am dro. Dyma’r rhestr:
corhedydd y waun; titw tomos las, titw mawr, brân, crëyr las; gwylanod ben du, jac y do, siglen fraith, drudwy, cnocell werdd, hwyaid gwyllt, ji-binc a glas y dorlan.”
Wel mae glas y dorlan yn eithaf arbennig. Dim bob diwrnod dwi’n gweld glas y dorlan!
Ond yn ôl at heddiw. Treuliais bron awr yn gwylio drwy'r ffenestr a dyma be welais:
dau bioden, dwy fwyalchen, dau ddrudwy, un robin goch, dau jac-y-do, un titw Tomos las a phum titw cynffon hir.
Mae hi’n amrywio gymaint. Fel arfer byddaf hefyd yn gweld adar y tô a thitw Tomos mawr ond mae hi’n braf gweld y titw cynffon hir. Y rhain ydy’r delaf o’r ymwelwyr, dwi’n meddwl.
Mae’r holl beth yn cymryd dipyn o amser – dim yr awr dach chi’n treulio yn gwylio’r adar ond yr amser yn gwneud yn sicr bod yr ymborthwyr yn lan ac yn llawn o fwyd.