Ailddysgu

Monday, 21 April 2025

Glaw

O’r diwedd dan ni’n cael dipyn o law.  Mae’r tywydd wedi bod yn braf ar y cyfan am ryw fis - ond yn bendant dan ni ddim wedi cael llawer o law, ac mae’r tir yn sych ofnadwy.  Felly dwi wedi bod yn treulio amser yn dyfrio’r ffa yn yr ardd, a’r roced...a’r potiau, ac mae’r pwll bach yn sychu i fyny yn gyflym.

Ond heddiw, gyda’r glaw, mae hi’n bwysig defnyddio’r dŵr glaw yn ddoeth.  Dwi’n casglu’r dŵr sydd yn dod i’r bwced ar waelod y tŷ gwydr ac yn rhoi’r dŵr yn y pwll, neu ei ddefnyddio i ddyfrio’r potiau.



Hefyd mae hi’n gyfle i fynd trwy beth mae fy mab yn galw “gwaith papur”: y pethau sydd yn dod yn y post, o’r swyddfa trethi, neu’r banc, new pytiau dwi isio cadw o’r papurau newydd.  Fel arfer os ydy’r tywydd yn dda dwi wastad yn blaenoriaethu cael bod allan: cerdded ar y comin a gwylio’r bywyd gwyllt, neu weithio yn. yr ardd, neu dynnu lluniau. 

Gawn i weld sut mae pethau’n mynd!

Monday, 7 April 2025

Nythod

Mae’r tywydd gwych yn parhau, ac efallai bod hyn yn help i’r adar sydd yn nythu.  Bob Gwanwyn dwi’n trio sylwi ar unrhyw nyth dwi’n ei weld ond dwi ddim yn gweld llawer, ac wrth gwrs, cuddio’r nyth ydy’r amcan fel arfer (o safbwynt yr adar!), oni bai eich bod yn aderyn mawr fel barcut.  Does dim modd cuddio nyth barcut, maen nhw yn fawr ac yn flêr, ac mae’r un lleol yn uchel.  Ond does gan y barcut ddim ysglyfaethwyr ar wahân i fodau dynol.

 


Wn i ddim faint o farcutiaid sydd o gwmpas yr ardal.  Dan ni’n eu gweld nhw yn aml: dros y tŷ, a dros y dref a’r comin.  Mae un pâr yn nythu dros yr afon o’r comin a dyma’r nyth.  Er eu bod nhw o gwmpas dwi ddim wedi llwyddo i gael llun da ohonyn nhw yn hedfan, maen nhw yn eithaf cyflym.

 

Ar ben arall y raddfa, mae’r titw tomos las; aderyn bach sydd yn nythu mewn blychau nythu yn aml.  Ond y nyth dwi’n gweld ydy un ar y comin, yn y goedlan fach.  Mae’r nyth yma mewn twll mewn bedw arian, ac mae’r titw tomos yn brysur yn adeiladu’r nyth ar y funud.  Gobeithio y bydd hi’n llwyddiannus eleni.




Saturday, 5 April 2025

Y draenogod neu fywyd gwyllt yn yr ardd rhan 2.



Am flynyddoedd, dwi wedi bod yn garddio ar gyfer bywyd gwyllt.  Hynny yw, garddio yn organig, a thrio creu cynefinoedd i fywyd gwyllt. Dwi’n tyfu planhigion sydd yn cynnig bwyd, gwneud yn siŵr bod dŵr ar gael, tyfu blodau sydd yn dda i wenyn, cael lloches i adar a gadael ambell le sydd ddim rhy dwt.  Mae creaduriaid angen lle i guddio.  Hefyd, wrth gwrs, dwi isio i’r ardd edrych yn dda, a dwi isio tyfu bwyd ynddi hi.

Mae draenogod wedi prinhau yn ofnadwy dros y blynyddoedd yn yr wlad hon.  (Mae’r wefan yma



yn llawn o wybodaeth) .  Yn ein hardal ni, mae ‘na ddraenogod o gwmpas a dan ni wedi bod yn gwneud be fedrwn ni i helpu’r creaduriaid bach annwyl yma.  Prynon ni “dŷ” i’r draenogod, (fel gwelwch yn y llun) a dros y blynyddoedd mae draenogod wedi dod i’r ardd.  Dan ni yn prynu bwyd draenogod (“Spike”!) a hefyd yn rhoi dŵr allan.  Ryw bedair blynedd yn ôl, gyda’r wyrion, gwnaethon ni loches i greaduriaid bach  o dan goeden wrth y wal.  Peth arall pwysig ydy bod draenogod yn medru mynd o un ardd i’r llall felly mae’n bwysig bod yna briffordd draenog.  Fel mae’n digwydd mae 'na dwll sydd digon mawr i ddraenogod i fynd trwyddi hi, ar waelod y drws yn y wal.

Eleni maen nhw wir yn ffynnu.  Ryw fis yn ôl wnaethon ni dod ar draws draenog wrth fynd ati i dorri’r gwairYn y blog yma, soniais ein bod wedi gweld dau ddraenog.  Ar ôl ychydig gwelson ni dri draenog.  Ond erbyn dydd Llun diwethaf, roedd CHWECH.  Dwi erioed wedi gweld cymaint o ddraenogod!  Roedd tri yn bwyta’r bwyd y roedden ni wedi ei roi iddyn nhw a thri arall yn cerdded o gwmpas yr ardd lysiau (gyda'i gilydd).  Ers hynny dan ni ddim wedi gweld cymaint ond dan ni wedi prynu pecyn mawr o’r bwyd!