Ailddysgu

Monday, 11 August 2025

Goroesi'r gwres Awst 11

Ar ddiwrnod crasboeth, be well i wneud dros amser cinio pan mae hi ry boeth i fynd allan i'r ardd, na gwrando a dal i fyny gyda “Colli’r Plot” (lle mae Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros yn trafod llyfrau) a dyna beth dwi wedi bod yn ei gwneud ac wedi darganfod llyfrau newydd nad oeddwn wedi dod ar eu traws o’r blaen.  Dyma lyfrau newydd  i fi efallai byddaf yn archeb:

 

Dal dy Dir - Siân Bod

Tywod - Elain Roberts (Un o ennillydd yr eisteddfod yr Urdd eleni)

Tempo - Rhianedd Jewell

Hanna - Rhian Cadwaladr

 

Ac yn glad, "Mae" - Mererid Hopwood. 

 

Mae hwn, “Mae”,  gennyf yn barod a dwi wedi darllen ychydig o’r cerddi ac wedi cael hwyl arnynt.  Mae Mererid Hopwood yn Is-lywydd y “Movement for the Abolition of War” yn ôl Golwg felly fel mae'r adolygiad yn "Golwg" yn dweud, does dim syndod bod heddwch yn thema pwysig yn y cerddi yma.  Ond yn y podledioad "Colli'r Plot", roedd rhywun sydd ddim fel arfer yn hoff o farddoniaeth (Bethan Gwanas, dwi’n meddwl) yn rhoi moliant cryf i’r cyfrol yma.  A dwi’n cytuno. Efallai bod ambell gerdd yn anoddach na’r gweddill ond yn y bôn dwi’n cael pleser mawr wrth ddarllen y cerddi yma.  Maent yn gynnes ac yn yn agos atoch chi, a dwi’n meddwl fy mod i’n dallt llawer un (dwi’n ei chael hi’n anodd i ddallt farddoniaeth Saesneg hefyd!)


Dyma dechrau cerdd “A pha beth a wnawn?”

A pha beth a wnawn

Yn nyddiau’r clo

Ond chwilio’r hen eiriau

Yng nghorneli’r co’?

 

Ac wrth sôn am ddarllen, diolch byth fy mod wedi cywiro pa lyfr dyn ni am ddarllen yn ein cyfarfod nesaf o’r clwb Darllen Llundain ar y bedwaredd o Fedi.  Yn fy mhen roeddwn y siŵr mae Nelan a Bo roedden am drafod.  Ond na, Y Tŵr gan Rebecca ydy’r llyfr ac felly mae rhaid ei ffeindio fo.  Ar ôl darllen llyfr ( a darllenais Y Tŵr dipyn o amser yn ôl) dwi’n tueddu rhoi’r llyfr o’r neulltu a weithiau mae o’n mynd ar un o’r silffoedd Gymraeg a weithiau, yn anffodus mae o’n ffeindio cartref arall dros dro, ac wedyn bydd rhaid dod ar eu draws o....

Thursday, 7 August 2025

Cynhaeafu

Mae’r tŷ gwydr, yn enwedig, wedi bod yn gynhyrchiol iawn eleni - ac mae’r cynnyrch yn dal i ddod:  llwyth o domatos, ciwcymbr, pupurau mawr sydd yn cochi rŵan, ac aubergines enfawr: digon mawr bod un yn gwneud cinio sydd weithiau yn ddigon am fwy nac un bryd o fwyd.  Ar ôl y gwaith caled mae hi’n hyfryd cael y ffrwythau yma.  Mae’r tomatos wedi mynd i mewn i gawl ac yn cael eu defnyddio yn ddyddiol - a rhai yn mynd i ffrindiau hefyd.

Dyma be wnes I gasglu o’r tŷ gwydr bore Mercher: 


Tu allan mae’r goeden afalau Discovery wedi gwneud yn dda eleni hefyd.  Dydyn nhw ddim yr afalau gorau, ‘swn i’n dweud; felly dyma gyngor os ydych am blannu coeden am y tro cyntaf – gwnewch yn siŵr eich bod yn blasu’r ffrwythau!  Ta waeth.  Mae’r rhain yn aeddfedu yn gynnar ond dydyn nhw ddim yn cadw – felly rhaid eu bwyta neu wneud rhywbeth gyda nhw.  Ar ôl eu bwyta nhw a rhoi rywfaint i gymdogion a ffrindiau roedd llwyth ar ôl felly dyma wneud siytni.  Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio gyda chyri.



Saturday, 2 August 2025

Llyfrau

Ddoe, o’r diwedd, cawson ni dipyn o law.  Dwi ddim yn siŵr os bydd hi’n ddigon i helpu’r planhigion sydd wir eisiau dŵr, ond yn sicr mae hyn yn well na dim. Dwi wedi dechrau arni eto gyda darllen llyfrau Cymraeg.  Dyma be ges i mewn pecyn o Balas Print, lle dwi wastad yn prynu llyfrau. 

 


Ond diolch i ni fod yn y llyfrgell leol wythnos diweddaf gyda’r wyrion, ddois adre gydag ychydig o lyfrau Saesneg hefyd.  Yr un dwi wedi mwynhau yn arw hyd at hyn ydy llyfr gan Hemingway: A Moveable Feast.  Dyma gasgliad o draethodau byr, yn cofnodi ei amser ym Mharis, yn y 20au.  Ar y pryd, yr oedd artistiaid o bob math yn byw ym Mharis, yn cynnwys James Joyce a Scott Fitzgerald: dwi ddim wedi darllen amdanyn nhw eto ond dwi’n edrych ymlaen.  Mor dda ydy cael llyfr neu ddau (neu chwech) wrth law.  .

 

Dwi yng nghanol darllen I’w Ddiwedd Oer gan Jon Gower ar y funud. Dwi ddim yn siwr os ydy steil Jon Gower a fy chwaeth i yn cyd-fynd.  Trïais ddarllen Norte sawl gwaith ar ôl canmoliaeth fy ffrind Gareth, ond doedd o ddim yn tycio, ac yn fwy diweddar darllenais ran o gyfres ditectif.  Y Düwch oedd un yn y gyfres yma, ond am dreisiol: doeddwn i ddim yn medru darllen y manylion i gyd: roedd fel sbecian allan ar ffilm arswydus gyda dy ddwylo dros dy lygaid! Felly dim mwy o’r rheini, ond dwi yn gwerthfawrogi ei sgwennu, felly dwi’n darllen “I’w Ddiwedd Oedd” yn araf i fi cael mwynhau’r disgrifiadau.  Yn y cyfamser, dwi wedi gorffen Penllachar; llyfr ditectif newydd gan Rhiannon Thomas.  Roedd hyn yn brofiad gwbl wahanol lle'r oedd y stori wedi gafael ynddo fi ac roeddwn i jyst isio gwybod beth oedd am ddigwydd nesaf.  Dwi ddim yn dda am gadw i un llyfr ar y tro, yn anffodus, felly dwi hefyd yn darllen llyfr gan Robin Wall Kimmerer: “Braiding Sweetgrass”. Efallai byddaf yn sgwennu mwy am hwnnw yn nes ymlaen.  Hefyd dwi “wedi darganfod” Carys Davies sydd wedi ennill llyfr y flwyddyn (nofelau Saesneg) 2025 ac yn wir yn haeddu ennill,  Gwelir https://www.literaturewales.org/our-projects/wales-book-year/

Stori ydy hon am ddau ddyn yn cyfarfod ar ynys anghysbell rhwng yr Alban a Norwy, yn ystod y ddeunawfed ganrif pan roedd trigolion yn cael ei hel o’r Alban er mwyn rhoi defaid ar y tir.  Mae’r llyfr yn hudolus.